Mae Kasper yn ymchwilio i bosibiliadau meithrin gwymon yn nyfrffordd Aberdaugleddau. Mae'n gweithio ar nifer o agweddau ar y maes hwn, megis meithrin gwymon mewn amgylcheddau â lefelau amrywiol o halltedd a nitradau; storio sborau gwymon drwy dechnegau cryogeneg; a dadansoddi data hanesyddol am ansawdd dŵr a bioamrywiaeth yng Nghymru. Mae'n cael ei ariannu gan ysgoloriaeth KESS2 gyda chymorth gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau.
Goruchwylwyr: Yr Athro Kam Tang, Dr. Sara Barrento a Dr. John Griffin