Partneriaid hyfforddiant
Mae'r DVLA yn ariannu 20 lle ar Gwrs Sylfaen Cyfrifiadureg Prifysgol Abertawe ar gyfer staff y DVLA, ynghyd â chwe lleoliad i fyfyrwyr TG yn y Brifysgol â'r nod o'u recriwtio ar ôl iddynt raddio.
Mae'r strategaeth wedi helpu i baratoi diwylliant y DVLA ar gyfer dyfodol digidol hefyd.
Fel un o gyflogwyr mwyaf de Cymru, roedd y DVLA am gynyddu nifer y gweithwyr TG medrus sydd ar gael wrth iddynt ddatblygu gwasanaeth TG mewnol. Mae'r Asiantaeth wedi meithrin perthnasoedd â phrifysgolion lleol ac mae'n noddi prosiect o'r enw TechHub, sef rhwydwaith a sefydlwyd gan gwmnïau technoleg lleol i annog rhannu syniadau, adnoddau a gweithleoedd digidol.
Mae'r DVLA yn buddsoddi'n sylweddol yn ei phobl. Mae gan yr Asiantaeth ecosystem gref iawn o sgiliau, addysg a chyfleoedd swyddi a ddefnyddir ganddi i helpu ei gweithlu i ddychwelyd i addysg er mwyn datblygu'n bobl ddigidol.
Bydd hyn yn cyfrannu'n uniongyrchol at gronfa sgiliau digidol y DVLA, rhywbeth a fydd yn ehangu ei gwaith presennol, yn denu rhagor o weithgareddau datblygu a darparu gwasanaethau'r Llywodraeth i'r sefydliad, gan gefnogi twf ei sylfaen cyflenwyr leol yn y maes digidol.
Partner prosiect ar gyfer menter techhub
Fel rhan o brosiect uchelgeisiol i ddatblygu Abertawe fel canolfan ragoriaeth ar gyfer yr economi ddigidol, mae'r fenter TechHub yn gyfle i fusnesau newydd, datblygwyr meddalwedd ac ymchwilwyr, yn ogystal â myfyrwyr o Brifysgol Abertawe, ddod ynghyd.
Mae'r DVLA wedi buddsoddi £250,000 yn y TechHub, menter sy'n rhoi cyfle i fusnesau newydd, datblygwyr meddalwedd ac ymchwilwyr, a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ddod ynghyd.
Mae TechHub Abertawe yn sefydliad nid er elw sydd â'r nod o feithrin doniau digidol newydd, ac mae'n un o saith sefydliad yn unig o'i fath yn y byd - a'r unig un yn y DU y tu allan i Lundain.
Yn ogystal â darparu lle i ddatblygwyr meddalwedd, entrepreneuriaid technoleg uwch ac ymchwilwyr gydweithio ar brosiectau, mae cynlluniau ar y gweill i drefnu hyfforddiant a mentora ar gyfer pobl sydd am sefydlu eu busnesau digidol eu hunain. Sefydlwyd TechHub Abertawe gan dri entrepreneur ifanc - Adam Curtis, Matt Warren a Paul Harwood.
CEFNOGWR BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT
Mae'r DVLA wedi cynnig cyfle i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe dreulio 'Blwyddyn mewn Diwydiant' fel rhan o'u gradd. Mae'r bartneriaeth hon wedi bod o fudd i'r DVLA a'r myfyrwyr ar leoliad yno.
Os yw'ch cwmni'n chwilio am fyfyriwr i dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, mynnwch ragor o wybodaeth neu cysylltwch â ni
PARTNER SEFYDLU CHERISH DE
Fel un o bartneriaid sefydlu Canolfan CHERISH-DE ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r DVLA wedi chwarae rôl allweddol wrth ysgogi arloesi sylweddol ym maes technoleg a gwasanaethau er mwyn i bobl deimlo wedi'u grymuso gan y chwyldro digidol. Mae'r DVLA yn manteisio ar hyn i'n helpu i wella diogelwch ffyrdd, lleihau troseddu sy'n gysylltiedig â cherbydau, cefnogi mentrau amgylcheddol a lleihau cyfraddau osgoi talu treth cerbydau.
Rhagor o wybodaeth am CHERISH-DE