Dyfarniadau ac ysgoloriaethau
Dyfarniadau Symudedd Santander
Yn 2015/16, roedd 43 o ddyfarniadau eisoes wedi cael eu dyrannu i staff ym mhob un o Golegau'r Brifysgol i ddatblygu cysylltiadau a synergeddau yng ngogledd America, de America, Sbaen, Portiwgal a Rwsia. Yn 2015/16, rhoddwyd blaenoriaeth i geisiadau at ddiben datblygu neu gryfhau cysylltiadau â sefydliadau yng ngwledydd America Ladin. Nod y berthynas hon yw cynyddu'r nifer o fyfyrwyr ôl-raddedig o ranbarth America Ladin hefyd: yn enwedig o Frasil, Mecsico, Chile a Phatagonia.
"Gwnaethom adnabod y cyfleoedd i dyfu yn y rhanbarth hwn, yn enwedig mewn pynciau STEMM a oedd yn cydweddu â chryfderau unigryw Prifysgol Abertawe." Meddai Cristina Monteiro-Mudresh, Rheolwr Rhanbarthol America Ladin ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae cynnydd mewn cyllid gan Santander wedi caniatáu i'r Brifysgol ddarparu cyllid rhannol ar gyfer hyd at 50 o aelodau staff. Roedd Favela Painting gan Dr Richard Smith o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe yn ymgais yng nghystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2015, a grëwyd ar daith a noddwyd gan Santander. Mae myfyrwyr wedi dod yn llysgenhadon go iawn dros Brifysgol Abertawe. Mae Dyfarniad Symudedd Santander yn rhoi cyfle prin ac ysgogol i fyfyrwyr astudio yn Ewrop ac i ennill cymhwyster gradd mawr ei fri yn y DU.
"Mae myfyrwyr wedi bywiogi'r dosbarthiadau ac wedi dod â safbwynt newydd a gwerthfawr i'r amgylchedd dysgu."
Interniaethau a ariennir
Mewn partneriaeth â Santander, mae Prifysgol Abertawe'n creu lleoliadau gwaith i helpu myfyrwyr i ddatblygu'n raddedigion sy'n barod i weithio mewn diwydiant, gan ganiatáu i gyflogwyr weld myfyrwyr wrth eu gwaith.
Ocean Ecology
"Fel busnes newydd a sefydlwyd yn ddiweddar, rydym wedi elwa'n fawr o raglen interniaethau Santander gan ei bod wedi ein helpu i ymdopi â'r llwyth gwaith mawr rydym yn ei brofi ar hyn o bryd ac i gyrraedd cerrig milltir allweddol prosiectau, gan ganiatáu amser ar gyfer datblygu'r busnes a thwf pellach hefyd."
“Dyma ein hail rownd o Interniaethau Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) Prifysgolion Santander, ac mae wedi bod yn ased amhrisiadwy wrth i'n busnes dyfu. Mae'n hynod fuddiol i'n gwaith o ddydd i ddydd drwy ddarparu interniaid medrus a brwdfrydig, ac mae'n gyfle i'r cyfarwyddwyr werthuso a fyddai cynnig cyflogaeth amser llawn iddynt yn gam cywir i'r busnes.”
C-FEC
"Diolch i gymorth ariannol Rhaglen Interniaethau Santander roedd C-FEC yn gallu cynnig contract tymor byr i beiriannydd graddedig, a ddaeth yn aelod hynod ddibynadwy, allweddol a gwerthfawr o'r tîm yn gyflym."
Dywedodd C-FEC y byddent yn bendant yn cyflogi intern eto, a'u bod wedi hoffi pob agwedd ar y rhaglen.
Quantum Advisory
"Cafodd Quantum brofiad cadarnhaol iawn gyda'r rhaglen. Roedd defnyddio cynllun Santander yn ffordd effeithiol o nodi myfyriwr graddedig addas ar gyfer ein cwmni, ac roedd y cyllid yn sbardun ychwanegol i ni gyflogi myfyriwr graddedig ar gyfnod prawf."
"Roeddem yn hapus iawn gyda'r cymorth a gawson ni gan Brifysgol Abertawe yn y broses ddethol a chydag ansawdd yr ymgeiswyr a anfonwyd ar gyfer cyfweliad. Mae hwn wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn a byddem yn ei wneud eto yn bendant."
MENTERGARWCH
Cynhelir cystadleuaeth Gwobrau Mentergarwch Prifysgolion Santander bob blwyddyn, ac mae wedi creu meddylfryd arweinyddiaeth a menter drwy gymuned y Brifysgol.
Mae mentergarwch o ddiddordeb penodol i Santander ac mae'n ceisio hyrwyddo diwylliant o fenter ac arloesi sy'n allweddol i gydweithio â phrifysgolion.
Ar ôl derbyn bwrsariaeth o £1,000 gan Santander, sefydlodd un o fyfyrwyr Abertawe, Temitope Balogun, Great Worqs, sef cymuned unigryw i wneuthurwyr ffilmiau ac awduron i greu a chydweithio â'i gilydd, gan ddefnyddio marchnadfa i ddosbarthu ffilmiau, megis The New Stereotype, sy'n "defnyddio ffasiwn a ffotograffiaeth i greu delweddau cadarnhaol ac i ddathlu haenau amrywiol niferus bywyd pobl ddu". http://greatworqs.tumblr.com/
Dywedodd Rheolwr Mentergarwch Prifysgol Abertawe, Dave Bolton, fod hyn yn "gyfle gwych i ddangos a hyrwyddo doniau entrepreneuraidd staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe ac yng Nghymru!"
Mae cystadleuaeth mentergarwch Santander yn agored i'r holl fyfyrwyr sydd â syniad busnes dichonadwy. Mae'r tri ymgeisydd gorau yn derbyn bwrsariaeth o £1,000 gan Santander.