Sefydlwyd Prifysgol Abertawe er mwyn diwallu anghenion y diwydiannau metel. Heddiw, mae ei gwaith o ran dur a’i chydweithredu â byd diwydiant yn bwysicach nag erioed.
A chan fod campws y Brifysgol yn y Bae yng ngolwg gweithfeydd dur Port Talbot, un o bartneriaethau cryfaf a mwyaf oesol Prifysgol Abertawe yw’r bartneriaeth gyda Tata Steel.
Trwy weithio mewn partneriaeth, mae Prifysgol Abertawe a Tata Steel wedi datblygu’r ganolfan ragoriaeth arloesedd dur gyntaf yn y DU, gan greu clwstwr ymchwil uwch-dechnoleg sy’n cysylltu’r gadwyn gyflenwi leol â phrosiectau ymchwil newydd, cyfleoedd masnachol, prosiectau a ariennir, hyfforddiant, a chydweithio a chydweithrediadau pellach.