Defnyddio cyfleusterau
Mae hawl gan yr holl fyfyrwyr gael mynediad i gyfleusterau yn unol â’r hunaniaeth rhywedd y maent wedi’i datgan i’w hunain.
Ni ddylid gofyn i weithwyr neu fyfyrwyr trawsrywiol ddefnyddio’r cyfleusterau sy’n cyfateb â’r rhywedd y dyrannwyd iddynt pan gawsant eu geni, neu orchymyn iddynt wneud hyn, o dan unrhyw amgylchiadau, a gall gweithwyr a myfyrwyr trawsrywiol gael mynediad i’r cyfleusterau sy’n cyfateb â’r rhywedd y maent yn dymuno hunaniaethu ag ef.
Ni fydd gofyn i weithwyr a myfyrwyr trawsrywiol ddefnyddio toiledau hygyrch oni bai eu bod yn dymuno gwneud hyn.
Mae gan Brifysgol Abertawe nifer o doiledau niwtral o ran rhywedd a/neu gyfleusterau hygyrch mewn lleoliadau amrywiol ar y ddau gampws. Ceir isod fanylion am y cyfleusterau hyn ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae: