Cynhelir Grŵp Ieuenctid LGBTQ+ GoodVibes bob nos Farwrth rhwng 5.30pm a 7.30pm yn YMCA Abertawe.
Mae'n amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb rhwng 11 a 25 oed a hoffai gael cyngor ac arweiniad neu wneud ffrindiau newydd.
E-bostiwch kelly@ymcaswansea.org.uk am ragor o wybodaeth.
Mae Llinell Gymorth LGBT Cymru’n darparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol a chymorth cyfrinachol ar gyfer llawer o broblemau mewn bywyd ynghyd â’r problemau amrywiol y gall pobl LGBT, eu teuluoedd a’u ffrindiau eu cael.
Mae ei staff cymwys a’i gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n awyddus i’ch helpu gyda phroblemau LGBT ac nid oes rhaid i chi fod yn lesbiad, yn berson hoyw, yn ddeurywiol neu’n drawsrywiol+ i’w ffonio.
Dyma adnodd cymorth LGBT+ yn Brighton ond sydd ar gael i bawb yn y DU drwy e-bost, dros y ffôn a sgwrs sydyn (mae oriau agor yn berthnasol).
Cymorth i deuluoedd ac unigolion o ran plant a phobl ifanc sy’n drawsrywiol neu’n amrywio o ran eu rhywedd. Ar gael drwy e-bost a thros y ffôn.
Switchboard
Dyma adnodd cymorth LGBT+ yn Llundain ond sydd ar gael i bawb yn y DU drwy e-bost, dros y ffôn a sgwrs sydyn (mae oriau agor yn berthnasol).
Gwybodaeth a chymorth i gymunedau LGBT dros y ffôn (mae oriau agor yn berthnasol).