MANYLION Y PROSIECT
Bydd Cymrodoriaeth fawreddog Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), sy'n werth £86,000, yn galluogi’r Athro John Goodby i ymweld â lleoedd sy'n cadw llawysgrifau Dylan Thomas yn llyfrgelloedd prifysgolion UDA megis Buffalo, Efrog Newydd ac Austin, Tecsas ymysg eraill.
Mae’r Athro Goodby wedi cyhoeddi’r astudiaeth hyd llawn gyntaf o farddoniaeth Thomas ers y 1960au.Cyhoeddwyd The Poetry of Dylan Thomas: Under the Spelling Wall ar 31 Gorffennaf 2013 gan Wasg Prifysgol Lerpwl.
Nod y ddau ddarn o waith yw ail-ddehongli Dylan Thomas yng nghyd-destun blynyddoedd cynnar y 21ain ganrif. Yn wahanol i'r 91 o gerddi oedd yn yr argraffiad diwethaf o waith Thomas, bydd yr argraffiad newydd yn cynnwys oddeutu 160 o gerddi. Hefyd, bydd yr argraffiad newydd yn trefnu'r cerddi yn ôl dyddiad eu cyfansoddi, gan alluogi darllenwyr i olrhain datblygiad Thomas.
Roedd rhagfynegiad Thomas o beryglon enwogrwydd, wrth iddo farw'n gynnar, yn rhan o'r hyn a'i wnaeth yn ffefryn i The Beatles, Bob Dylan, cyn Arlywyddion yr UDA, Bill Clinton a Jimmy Carter, ac i sêr ffilm a roc megis Cerys Matthews a George Clooney (sy'n adrodd 'And Death Shall Have No Dominion' yn llawn yn ei ffilm Solaris). Mae'n arwyddocaol mai ef oedd y bardd cyntaf i weithio yn holl gyfryngau darlledu a recordio ei oes - radio, ffilm, LP, a theledu - ac mae ei statws unigryw fel bardd anodd sydd, serch hynny, yn apelio i'r werin a'r miloedd wedi'i wneud yn eicon diwylliannol fythol.