Ymyriad ymgysylltu â rhieni o School-Home Support, sef elusen yn y DU, yw ‘Barod am y dosbarth Meithrin, Barod i Ddysgu’. Mae’r prosiect wedi’i lunio i fod yn hynod hyblyg ac yn hawdd ei addasu ar gyfer lleoliadau unigol a theuluoedd. Ar y cyfan, mae’n cynnwys prif offeryn, ‘Fy Myd i’, sy’n cefnogi rhieni i gydnabod a gwerthfawrogi eu cryfderau a’u galluoedd eu hunain, a’u helpu i ymgysylltu â dysgu eu plant. Ategir yr offeryn hwn, fodd bynnag, gan waith y tu allan i’r lleoliad sydd wedi’i lunio i fod mor hyblyg ag sy’n angenrheidiol i gefnogi rhieni a theuluoedd mewn modd cyfannol. Gall y cymorth hwn gynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau, o helpu rhieni i gael mynediad at gyllid mewn argyfwng yn ôl yr angen, i roi cymorth i unigolion ar gyfer problemau penodol.
Bydd y prosiect, sy’n cael ei gynnal mewn ardal hynod ddifreintiedig yn Bradford, yn cael ei werthuso dros dair blynedd gan Dr Janet Goodall. Mae’r gwerthusiad yn ansoddol yn bennaf, gan gynnwys cyfweliadau grŵp ac unigol gyda’r rhieni sy’n cael mynediad at y rhaglen, ynghyd â staff yn y rhaglen a staff o’r ysgolion sy’n gweithio gyda phlant o’r teuluoedd sy’n cymryd rhan.
Mae arweinydd y prosiect yn gweithio gyda theuluoedd ar chwe phrif darged:
1. Cymdeithasoli
2. Cynnydd ymddygiad a hyder rhieni
3. Llythrennedd emosiynol a dealltwriaeth
4. Annibyniaeth (plentyn) ac iechyd/lles (rhiant)
5. Llythrennedd a datblygiad rhifiadol
6. Arferion a chynllunio ynghylch presenoldeb yn yr ysgol
Un o elfennau’r gwaith yn yr Offeryn ‘Un Byd’ yw defnyddio ‘cardiau cryfderau’; mae rhieni’n dewis dau gerdyn cryfder yr wythnos o becyn a osodir ymlaen llaw ac yn gweithio ar y problemau penodol hynny tan iddynt gwrdd eto.
Mae’r rhaglen hefyd yn defnyddio dulliau syml i alluogi rhieni i gofnodi eu cyflawniadau (megis ysgrifennu’r rhain ar blatiau papur i’w rhannu yn y cyfarfod nesaf). Mae elfen fawr o’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygiad emosiynol a chreodd rhai rhieni offer syml i’w defnyddio wrth drafod emosiynau â’u plant ifanc.
Rydym yng nghamau cynnar y gwerthusiad a’r rhaglen o hyd. Fodd bynnag, arwyddion cynnar adroddiad cyntaf School-Home Support yw bod y rhaglen yn cael effaith gref ar y teuluoedd sy’n cymryd rhan; mae rhieni wedi dweud bod ganddynt fwy o hyder, bod y plant wedi cyrraedd nodau amrywiol a osodwyd ar eu cyfer a’u bod yn llawer agosach at fod yn barod i ddechrau addysg yn y dosbarth Meithrin.