Daearyddiaeth Lenyddol Newydd: Datblygu a Gwerthuso Atlas Llythrennedd Digidol o Gymru a’i Gororau
Mae’r prosiect hwn yn arddangosiad rhyngddisgyblaethol o ddaearyddiaeth lenyddol sy’n cynnig dealltwriaeth o’r cysylltiadau hanfodol rhwng pobl, llenyddiaeth a thir. Bydd y prosiect yn creu ac yn gwerthuso gwefan ryngweithiol, The Digital Literary Atlas of Wales and its Borderlands. Bydd yr Atlas Llenyddol Digidol yn mapio 12 gwaith ffuglen clasurol a chyfoes wedi’u gosod yng Nghymru yn rhyngweithiol, gan gynnwys gwaith Fflur Dafydd, Amy Dillwyn, Menna Gallie, Niall Griffiths, Tristan Hughes, Lloyd Jones, Malcolm Pryce, Christopher Meredith ymhlith eraill, er mwyn herio ymagweddau sydd bellach yn hen, gan ddangos y potensial am ‘ddaearyddiaeth lenyddol newydd’. Gwneir hyn i: 1) annog darllen ffuglen yn feirniadol ac yn rhagweithiol; 2) hyrwyddo dealltwriaeth o sut y gall llenyddiaeth helpu i gryfhau hunaniaeth unigol a chymunedol; a 3) gwella twristiaeth ddiwylliannol.
Mae’r Athro Kirsti Bohata (Adran Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr CREW, sef Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru), yn Gyd-ymchwilydd ar y prosiect hwn a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), gwerth £617,614, dan arweiniad yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd cam cyntaf y prosiect yn creu’r Atlas Llythrennedd Digidol. Yn unol ag ymagweddau presennol i fapio llenyddol, bydd yr Atlas Llythrennedd Digidol yn dechrau drwy fapio cyfeirbwyntiau daearyddol a nodir mewn nofelau. Fodd bynnag, bydd data mapio ‘dwfn’ yn ategu’r ‘mapiau pell’ hyn, neu wybodaeth lleoliadau manwl (gan gynnwys data Cyfrifiad, hanesion lleol a digwyddiadau diwylliannol ar ffurf ystadegol, gweledol ac ysgrifenedig) am bob ardal a ddewiswyd. Bydd y prosiect hwn yn gweithio’n agos gyda Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) sy’n cydlynu’r data hwn ac y bydd yn cefnogi ei fewnbynnu i’r Atlas Llenyddol. Ynghyd â hyn, bydd yr Atlas Llenyddol yn cynnig cyfle i’r darllenydd roi ei hun yn y lleoliad drwy fapio llwybrau cerdded sy’n amlinellu’r cysylltiadau rhwng ffuglen a lleoedd yn glir. Bydd y llwybrau hyn yn dod gyda chyfarwyddiadau, sylwebaeth gan awduron, darnau o naratif, trafodaeth feirniadol, delweddau a sain. Bydd yr Atlas Llenyddol hefyd yn cyflwyno ffordd newydd o ennyn cyfranogiad darllenwyr mewn daearyddiaeth lenyddol drwy arosod darnau o ffuglen ar ddelweddau o’r llwybrau a fapiwyd. Drwy fanteisio ar ddatblygiadau technolegol ym meysydd dylunio gwe a mapio daearyddol, bydd darllenwyr yn gallu ‘sgrolio’ drwy’r straeon mewn lleoliadau ar eu cyfrifiaduron, yr un mor hawdd â throi tudalennau mewn llyfr neu atlas. Oherwydd natur ddigidol yr adnodd hwn, bydd defnyddwyr hefyd yn gallu dilyn y llwybrau hyn, wedi’u hehangu, mewn ffordd ymarferol hefyd, drwy gerdded mewn lleoliadau real a chael cymorth rhithwir o lechen wifi neu gysylltiad ffôn clyfar. Bydd yr Atlas Llenyddol yn weithredol o ddiwedd cam un, a bydd yn adnodd cyhoeddus mynediad agored, gan ddemocrateiddio mynediad at fapiau llenyddol, trafodaethau am naratif a lleoliadau go iawn. Bydd yr Atlas Llenyddol yn gweithredu fel safle lle bydd modd i unigolion ailddychmygu eu cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a daearyddiaeth.
Bydd ail gam y prosiect yn gwerthuso buddion Atlas Llenyddol yn feirniadol, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Caiff y cam hwn ei rannu’n dair rhan. Yn gyntaf, bydd y prosiect yn ystyried gwerth potensial diwylliannol yr Atlas Llenyddol i annog darllen ac ennyn diddordeb mewn lleoliadau penodol. Caiff 18 grŵp ffocws eu recriwtio i ymchwilio i sut mae DLAW yn newid y ffyrdd y mae darllenwyr yn ymdrin â ffuglen a’i daearyddiaeth. Yn ail, cynhelir 12 taith lenyddol gyda’r grwpiau ffocws, y bydd 2 ohonynt yn ddigwyddiadau cyhoeddus, wedi’u rheoli a’u hyrwyddo gan bartner y prosiect, Llenyddiaeth Cymru. Bydd y digwyddiadau hyn ar ffurf teithiau cerdded a gynhelir gydag awduron y ffuglen neu arbenigwyr academaidd, gan roi cyfle i’r cyhoedd ymwneud â’r gwaith ffuglen, arbenigwyr a lleoliadau mewn ffordd ymarferol. Yn ystod y teithiau hyn, caiff cyfranogwyr eu cyfweld a chynhelir arolygon i werthuso gwerth diwylliannol ac economaidd yr Atlas Llenyddol. Yn drydydd, bydd yr arolygon ar-lein yn ystyried gwerth y diddordeb a grëir yn y ffuglen a’r lleoliadau drwy’r Atlas Llenyddol. Bydd gan ddealltwriaeth ehangach o bŵer mapio llenyddol i newid y ffordd rydym yn darllen, yn ysgrifennu ac yn profi llenyddiaeth, a‘r buddion diwylliannol ac economaidd o wneud hynny, effaith y tu hwnt i Gymru. Bydd trydydd cam y prosiect yn cyfleu’r ddealltwriaeth hon mewn adroddiadau polisi, papurau academaidd, gwyliau rhyngwladol, cynadleddau, digwyddiadau sy’n agored i’r cyhoedd a’r Atlas Llenyddol ei hun.