Pobol yn eistedd o amgylch bwrdd tra bo dyn yn siarad mewn cyfarfod

Datblygu eich gweithlu neu symud eich gyrfa ymlaen gyda ni

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol, wedi'u hachredu neu heb eu hachredu, a gynlluniwyd i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth mae eu hangen arnoch i gyflawni'ch nodau busnes.

Rydym yn cynnig rhaglenni sefydledig a rhai y gellir eu datblygu i ddiwallu anghenion eich busnes, wedi'u darparu gan arbenigwyr yn eu meysydd a'u hategu gan ragoriaeth ymchwil ac addysgu o safon fyd-eang. Mae ein cyrsiau'n hyblyg hefyd a gellir eu cynnig ar sail astudio rhan-amser neu ddysgu yn y gweithle.

Cyrsiau yn ôl maes pwnc

Cyrsiau yn ôl math

Prentisiaethau Gradd

Dau berson yn gweithio gyda'i gilydd mewn llyfrgell

Chwilio am gwrs sy'n diwallu eich anghenion?

Os ydych yn chwilio am rywbeth sy’n bodloni gofynion unigol eich sefydliad rydym yn fwy na hapus i weithio gyda chi i lunio rhaglen benodol i chi. Cysylltwch â ni

 

Darparwyr Cyrsiau Cysylltiedig

Logo Switch on Skills wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU a logos Leveling Up

Switch on Skills

Mae'r prosiect Switch on Skills yn darparu cyrsiau a hyfforddiant achrededig ar-lein am ddim sydd â'r nod o gyflawni sero net. Mae'r prosiect, sydd wedi'i ariannu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mewn cydweithrediad â'r byd diwydiant a'r byd academaidd, yn cyflwyno model hyblyg sy'n defnyddio datblygiadau mewn dysgu dan arweiniad ar-lein, addysgu wyneb yn wyneb a sesiynau ymarferol. Gall cyfranogwyr gael mynediad at gyrsiau byr sy'n cynnig micro-gymwysterau a defnyddio'r rhain i ennill cymwysterau ac ennill sgiliau.

Dysgu mwy
Logo Arweinyddiaeth ION

Arweinyddiaeth ION

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae rhaglenni arweinyddiaeth ION yn gwreiddio newid parhaol a chadarnhaol mewn arferion arweinyddiaeth, canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion i'r heriau go iawn mae arweinwyr, ar bob lefel, yn eu hwynebu bob dydd.

Mae cyfranogwyr yn datblygu sgiliau o safon uchel â'r nod o gynyddu cynhyrchiant yn y gweithle, gan ddatblygu mentrau proffidiol a chynaliadwy sy'n cyfoethogi bywydau eu gweithwyr ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi.

Cyflwynir y rhaglenni hyn gan arbenigwyr busnes, sy'n entrepreneuriaid i'r carn ac maent yn seiliedig ar ddysgu ymarferol, drwy brofiad, gyda grŵp o gymheiriaid y gellir ymddiried ynddynt.

Dysgu mwy
Logo Coated M2A

Coated M2A

Cychwynnodd yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn 2015 gyda'r nod o greu arweinwyr diwydiant Cymru'r dyfodol drwy ymchwil ôl-raddedig a noddir gan ddiwydiant. Mae M2A yn adeiladu ar 25 mlynedd o brofiad o ddarparu Doethuriaethau Peirianneg a dyma oedd un o'r canolfannau arloesol ar gyfer darparu cymwysterau Doethuriaethau Peirianneg. Mae M2A wedi mwyafu ar swm y cyllid sydd ar gael trwy ddefnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i fanteisio i’r eithaf ar arian UKRI, gan gynnwys dwy Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Haenau Swyddogaethol yn y gweithrediad.

Dysgu mwy