Gweithio'n agos gyda sefydliadau diwylliannol a phroffesiynol
Mae gan Brifysgol Abertawe amrywiaeth eang o arbenigedd mewn meysydd megis ieithoedd, yn enwedig yr iaith Gymraeg, y cyfryngau, cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, ac addysgu Saesneg fel iaith dramor. Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau diwylliannol a phroffesiynol, a'r perthnasoedd hyn sy'n helpu i sicrhau bod ein hymchwil a'n haddysgu ar flaen y gad yn eu meysydd. Ategir ein hyfforddiant a'n haddysg gan gyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n cynnwys ystafelloedd cyfryngau creadigol, labordai iaith a bythau cyfieithu ar y pryd ar gyfer cynadleddau, ynghyd â thraddodiad sefydledig o weithio gyda'r gymuned ehangach.