Mae Partneriaeth Strategol Sefydliadol Abertawe gyda Grenoble yn fodel amlddisgyblaethol arloesol ar gyfer cydweithredu rhyngwladol, gan ychwanegu gwerth trwy wahaniaethu academaidd. Mae’n cynnwys cymuned o brifysgolion a sefydliadau ymchwil yn rhanbarth Rhone ‐ Alpes yn Ffrainc gyda phoblogaeth myfyrwyr cyfunol o dros 65,000 o fyfyrwyr.
Mae Partneriaeth Strategol Sefydliadol Abertawe a Grenoble (UGA) yn bartneriaeth gynaliadwy hirdymor a ddechreuodd yn 2012 fel cydweithrediad ymchwil mewn nanowyddoniaeth, ynni a heneiddio gyda Phrifysgol Joseph Fourier Grenoble (UJF). Ers hynny mae wedi datblygu i fod yn gydweithrediad amlddisgyblaethol unigryw gyda Phrifysgol Grenoble Alpes: safle gwyddonol o bwys yn Ffrainc, a phrifysgol integredig sy'n ad-drefnu rhanddeiliaid addysg uwch ac ymchwil yn Grenoble. Mae'r rhain yn cynnwys Université Grenoble Alpes; Sefydliad Technoleg Grenoble (Ecole Polytechnique); CNRS ac INRIA.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Academic Partnerships