Dechreuodd Partneriaeth Strategol Grenoble-Abertawe fel cydweithredu ym maes ymchwil, dan gefnogaeth Llysgenhadaeth Ffrainc a Llywodraeth Cymru, er mwyn datblygu cynghrair Ffrainc-Cymru ym meysydd nanowyddoniaeth, ynni a heneiddio.
Ers hynny mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi cydweithio gydag academyddion o Grenoble mewn ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial, Biowyddorau, Cyfrifiadureg, Peirianneg, Gwyddorau Dynol ac Iechyd, y Gyfraith, Meddygaeth, Mathemateg, Ffiseg, a Gwyddorau Chwaraeon.
Mae cydweithredu ar ymchwil yn parhau wrth raidd y bartneriaeth strategol gyda:
- Rhaglenni cyson o ymweliadau â ffocws pendant iddynt, er mwyn cychwyn ac ymestyn y berthynas; a
- Staff pwrpasol wedi'u cyflogi gan Abertawe a Grenoble i gynnig cefnogaeth wrth gychwyn prosiectau a chyda cyswllt rhyng-sefydliadol.