Ein gweledigaeth yn Gwasanaethau Digidol yw cefnogi'r Brifysgol drwy ddarparu amgylchedd digidol arloesol a chynhwysol sy'n ymgysylltu ac yn ysbrydoli ein myfyrwyr a'n staff i greu a darparu addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf.
Fel rhan o'n Strategaeth Ddigidol newydd, ein nod yw trawsnewid ein gwasanaethau digidol er budd ein profiad myfyrwyr a staff; i gyfoethogi ein gweithgareddau a'n gwasanaethau craidd gyda meddylfryd 'digidol yn gyntaf' yn ein haddysgu, dysgu, ymchwil, arloesi, cydweithredu a gweithgarwch gweithredol; ac yn y pen draw arbed amser i bobl a chreu gwerth trwy ddarparu atebion digidol hygyrch a chynaliadwy.
Mae gennym nod uchelgeisiol - i fod y brifysgol ddigidol flaenllaw yng Nghymru erbyn 2030. Yr unig ffordd yr ydym yn cyflawni hyn yw trwy ddechrau llunio dyfodol, lle mae digidol wedi'i ymgorffori ym mhopeth a wnawn.