Mae Prifysgol Abertawe'n darparu rhwydwaith Wi-Fi ar draws ei champysau, i'w ddefnyddio gan fyfyrwyr a staff, yn ogystal â rhwydwaith ymwelwyr ar gyfer gwesteion a chynadleddau. Mae ein gwasanaeth Wi-Fi yn rhoi mynediad i eduroam, sy'n wasanaeth Wi-Fi trawsrwydweithio byd-eang ar gyfer ffonau symudol, gliniaduron a thabledi.
Mae ein rhwydwaith Wi-Fi yn cynnwys:
- Diogelwch ac amgryptio lefel menter
- Rhwydwaith Wi-Fi ar gyfer consolau gemau
- Cysylltedd ar draws holl safleoedd Prifysgol Abertawe a mynediad i rwydwaith eduroam mewn miloedd o brifysgolion eraill ledled y byd
- Rhwydwaith Wi-Fi am ddim sy'n darparu cysylltedd yn adeiladau'r Brifysgol ar gyfer ymwelwyr a gwesteion
Sut allaf gysylltu â'r Wi-Fi?
Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i gysylltu eich dyfais i Wi-Fi Prifysgol Abertawe.
Yn gyntaf, cysylltwch eich dyfais a'r rhwydwaith SwanseaUni-Setup er mwyn ei gofrestru.
Nesaf, cysylltwch â'n rhwydwaith Wi-Fi trwy ddilyn y cyfarwyddiadau sy'n berthnasol i'ch dyfais/ cyfrifiadur.
Wedi i chi gofrestru a dilyn y cyfarwyddiadau, byddech yn barod i gysylltu â'r rhwydwaith sy'n berthnasol i’ch dyfais. Ar ôl i chi gosod eich dyfais a chysylltu am y tro cyntaf, dylai'r ddyfais gysylltu yn awtomatig pryd bynnag rydych mewn ardal le mae rhwydwaith diwifr y Brifysgol ar gael.
Pob Sylfaen Gwybodaeth
Os oes gennych ymholiad pellach sy'n ymwneud a'r Wi-Fi, gallwch chwilio'n Pob Sylfaen Gwybodaeth