Rydyn yn falch o weithio gyda chyflenwyr o amrywiaeth o sectorau.
Nod Prifysgol Abertawe yw sicrhau bod nwyddau a gwasanaethau'n cael eu darparu'n amserol mewn modd effeithlon, effeithiol a moesegol, tra'n sicrhau gwerth am arian.
Felly mae nifer o ffyrdd y gallwch dendro am ein busnes:
Os ydym yn chwilio am bartneriaid masnachol i gynnig gwasanaethau ar y campws (e.e. arlwyo, manwerthu) bydd y cyfleoedd hyn yn cael eu hysbysebu ar-lein trwy borth GwerthwchiGymru (Sell2Wales).
Ar gyfer ein contractau gwerth mwy mae ein gofynion yn cael eu tendro’n uniongyrchol drwy e-DendroCymru felly dylai cyflenwyr sydd â diddordeb mewn cyflawni’r tendrau hyn ymateb yn unol â hynny i’r ‘Gwahoddiadau i Dendro’ a roddir yma.
Mae contractau o'r gwerth uchaf yn cael eu hysbysebu yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Cyfrifoldeb adrannau a cholegau unigol yw penderfyniadau prynu gwerth isel, felly cysylltwch â ni a byddwn yn ceisio eich cyfeirio at yr aelod mwyaf priodol o staff.
Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan ddarpar gyflenwyr felly os oes gennych rywbeth i'w gynnig i ni, cysylltwch â ni.