Mae'r prosiect 'Words that Burn' yn fenter gyffrous newydd sy'n canolbwyntio ar addysg Hawliau Dynol i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 yn Ne Cymru, gan gynnwys Ysgol Y Pant, Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ac Ysgol Gyfun Aberpennar.
Mae'n rhan o raglen fawr newydd o weithgareddau allgymorth DylanED a ariennir yn hael gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies mewn cydweithrediad ag Amnesty International UK (AIUK), nod y prosiect yw grymuso pobl ifanc i ddysgu am hawliau dynol a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel beirdd a phobl sy'n creu newid.