Beth yw Blwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol?
Mae'r Flwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol yn gyfle amhrisiadwy i fyfyrwyr ennill profiad ymarferol mewn amgylchedd ymchwil am gyfnod sy'n amrywio o 9 i 12 mis, gydag isafswm o 40 wythnos.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae myfyrwyr yn ymgolli yng ngweithgareddau beunyddiol grŵp ymchwil, gan gymryd rhan mewn sawl prosiect a meithrin sgiliau uwch mewn methodolegau ymchwil, dadansoddi data a'r defnydd o dechnolegau perthnasol.
Mae'r profiad hwn hefyd yn cynnwys ysgrifennu adroddiadau technegol, syntheseiddio llenyddiaeth a chyfleu gwybodaeth dechnegol yn effeithiol. Mae cyfleoedd i rwydweithio a meithrin proffil proffesiynol yn rhannau annatod o'r lleoliad gwaith.
Disgwylir i fyfyrwyr feithrin dealltwriaeth feirniadol o dechnegau casglu a dadansoddi data, moeseg ymchwil a gofynion iechyd a diogelwch.
Ar ddiwedd y lleoliad gwaith, bydd myfyrwyr yn llunio portffolio manwl ac yn cyflwyno poster, sy'n cael eu hasesu ar ôl i'r myfyriwr ddychwelyd.