Ein hymrwymiad
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth a wneir yn Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg, fel rhan o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg (FSE). Caiff pob unigolyn ei barchu a'i werthfawrogi beth bynnag yw ei nodweddion unigol, ac mae pawb yn cael cynnig cyfleoedd cyfartal.


Ein Gweledigaeth
Rydym yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi hunaniaethau gwahanol a chefndiroedd amrywiol ein hunigolion a'n cymuned, gan alluogi pawb i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn. Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi'u gwreiddio yn niwylliant craidd ein Hysgol ac yn ymddygiadau unigol a thorfol ein cymuned.


Ein Cenhadaeth
Hyrwyddo, gwella ac eirioli dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer yr holl staff a myfyrwyr. Gweithio mewn ffordd dryloyw, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, lle'r ydym yn galw ein hunain ac eraill i gyfrif ac yn annog meddylfryd twf.

Aelodau'r Pwyllgor

Digwyddiadau

Gweithdy "IncluCity" (Singleton)

IncluCity Workshop (Singleton)

Dydd Mercher 25 Medi 2024 11:30 - 13:00
Pen grisiau Wallace, Adeilad Wallace, Campws Singleton

Ydych chi'n greadigol?Ydych chi'n meddwl am sut, fel Gwyddonwyr a Pheirianwyr y gallwn wneud ein cymdeithas yn fwy cynhwysol?
Os felly, ymunwch â ni am sesiwn cyflwyniad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ymlaciol a dymunol lle byddwch yn gweithio mewn timau i ddylunio "IncluCity"!

Bydd pizza a diodydd ar gael!