Bydd hyd at 20 o fyfyrwyr yn gallu ymgymryd â dull dysgu'r Academi Gofal Sylfaenol.
Bydd eich trydedd flwyddyn yn yr Academi Gofal Sylfaenol yn disodli model traddodiadol lleoliadau arbenigol.
Er yr erys y deilliannau dysgu'r un peth, bydd gennych flwyddyn gyfan i'w cyflawni. Bydd hyn yn bosib oherwydd cyfleoedd dysgu a negodir (NLO) sy'n cynnwys amser a dreulir ym maes meddygaeth teulu, gofal cymunedol a gofal eilaidd.
Er y disgwyl i chi dreulio rhwng oddeutu 60% a 70% o'ch amser ym maes gofal sylfaenol, bydd gennych hefyd gyfle i archwilio gweithgareddau mewn ysbytai neu yn y gymuned ar sail eich anghenion dysgu a'ch meysydd diddordeb dynodedig eich hun. Caiff myfyrwyr eu hanfon i feddygfeydd teulu yng ngorllewin Cymru, fel unigolion neu mewn parau, a'n nod yw cyd-leoli grwpiau o fyfyrwyr.
Gwahoddir yr holl fyfyrwyr yn eu hail flwyddyn i fynegi diddordeb a rhoddir blaenoriaeth i'r myfyrwyr sy'n gallu dangos hunan-gymhelliad ac ymgymryd â dysgu hunangyfeiriedig.