EISIAU GWYBOD SUT BETH YW ASTUDIO STEMM YM MHRIFYSGOL ABERTAWE?

Ydych chi'n fyfyriwr Blwyddyn 12 sy'n chwilfrydig am fywyd prifysgol neu'n ystyried gradd am Mhrifysgol Abertawe? Mae ein hysgol haf gyffrous, a gynhelir bob mis Gorffennaf, yn cynnig profiad ymarferol unigryw sydd wedi'i gynllunio'n arbennig ar eich cyfer chi.

Rhaglen Breswyl 3-diwrnod: Mae ein rhaglen breswyl tair diwrnod yn rhoi’r cyfle i chi archwilio cyrsiau amrywiol fel Meddygaeth, Gwyddor Fiofeddygol, y Gyfraith, Busnes a Pheirianneg. Byddwch yn cael byw ar gampws prifysgol go iawn a chael mewnwelediadau gwerthfawr i'ch helpu i benderfynu ai gradd yw eich cam nesaf.

Tocynnau Diwrnod 3-diwrnod: Mae gennym hefyd Docynnau Diwrnod ar gael sy'n eich galluogi i fynychu yn ystod y dydd am y tair dydd. Mae'r tocynnau hyn yn ddelfrydol os ydych yn lleol ac yn dymuno archwilio'r gweithdai yn unig.

Rhieni a gwarcheidwaid: Byddwch yn dawel eich meddwl, bydd eich plentyn yn cael ei drochi mewn cymuned academaidd fywiog, yn gwneud cysylltiadau, yn darganfod yr hyn sy’n tanio ei frwdfrydedd ac yn cael cychwyn cadarn i’w ddyfodol.

Gwnewch cais nawr ar gyfer Gorffennaf 2026

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 3 Mai 2026

Gwnewch gais nawr

A diddordeb? Dyma'r wybodaeth allweddol:

Adolygiad o'r Ysgol Haf - Megan Da

O'r eiliad y gwnes i gyrraedd, cefais groeso gan staff a myfyrwyr cyfeillgar a wnaeth rannu eu profiadau o Brifysgol Abertawe â mi. Aethon ni i sesiynau am ddisgyblaethau penodol a wnaeth fy helpu i ddeall y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng disgyblaethau peirianneg gwahanol. Roedd hyn yn arbennig o ddefnyddiol gan fy ngalluogi i benderfynu ar y math o beirianneg a fyddai'n addas i mi. Bedair blynedd yn ddiweddarach, ac rwyf ar fin gorffen fy nghwrs ac yn gobeithio graddio yr haf hwn o Brifysgol Abertawe gyda BEng mewn Peirianneg Feddygol. Rwyf wedi dwlu ar fy amser yn Abertawe! 

Llun o Megan Davies ar y traeth.

FIDEO | Cael blas ar ein Hysgol Haf

Gwyliwch uchafbwyntiau Ysgolion Haf blaenorol i weld sut brofiad y cewch chi. Mae'r fideo hwn yn dangos myfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol, archwilio'r campws, a mwynhau bywyd yn ein rhaglen breswyl. Clywch yr egni, y cyffro a’r ymdeimlad o gymuned wrth i fyfyrwyr Blwyddyn 12 ddarganfod pynciau newydd a gwneud cysylltiadau parhaol.