Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig presennol ym Mhrifysgol Abertawe sydd â diddordeb mewn cael eu cyflogi fel Cynghorydd Ysgrifennu i Gymheiriaid gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd. Mae'n canolbwyntio ar y sgiliau, y technegau a'r prosesau sy'n angenrheidiol i gynnal apwyntiadau ysgrifennu academaidd un i un yn llwyddiannus gyda myfyrwyr israddedig.

Ydych chi eisiau gwella eich sgiliau ysgrifennu a chael profiad wrth roi cyngor i bobl eraill? Mae'r cynllun Ymgynghorwyr Ysgrifennu i Gymheiriaid yn gallu rhoi cyfle i chi:

  • Derbyn hyfforddiant ymgynghorydd ysgrifennu am ddim wedi'i drefnu gan Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe
  • Datblygu a myfyrio ynghylch eich addysgeg eich hun, a dysgu sgiliau i'w trafod mewn ceisiadau am Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (HEA)
  • Gwella eich ysgrifennu eich hun
  • Gwella'ch cofnod cyflogadwyedd a dysgu sgiliau i fynegi'r sgiliau hyn i gyflogwyr yn y dyfodol
  • o Cynyddu ymwybyddiaeth o wasanaethau myfyrwyr i'w defnyddio mewn addysgu a'r tu hwnt
  • Ymunwch â chymuned o ymgynghorwyr ysgrifennu taledig ym Mhrifysgol Abertawe

Sylabws

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys y sylfaen wybodaeth angenrheidiol, methodoleg addysgu un i un, a datblygu'ch sgiliau bugeiliol a'ch gallu i gyfeirio at wasanaethau arbenigol pan fo'n berthnasol. Cyflwynir y cwrs gan ddarlithwyr o'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd. Mae'r hyfforddiant yn ategu thema Fframwaith Hyfforddiant PGR Prifysgol Abertawe, addysgu ac arddangos.