Pam mae dechrau eich traethodau'n gynnar yn rhoi cyfle llawer gwell i chi gael gradd dda, yn cynyddu'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ac yn gwneud bywyd yn fwy diddorol.
Mae gan bawb ffrindiau sy'n honni eu bod ar ddihun drwy'r nos, wedi gwneud traethawd 3,000 o eiriau mewn un eisteddiad ac wedi cael gradd eithaf da er gwaethaf hynny. Ymhlith rhai unigolion llai diymhongar, gall hyn fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo hyd yn oed:
"Edrychwch, treuliais i lawer llai o amser ar hyn na wnaethoch chi ac fe wnes lwyddo i gael gradd well beth bynnag!”.
Ond efallai nad gwneud popeth funud olaf gyda sawl paned o goffi yw’r ffordd orau o fynd i'r afael â'ch traethodau wedi'r cyfan.
Ond mae Medwyn munud olaf yn colli allan ar brofiadau a chyfleoedd dysgu eithaf hanfodol – a hanfod y profiad o fod mewn prifysgol mewn gwirionedd. (Os nad oeddech chi wedi dyfalu eisoes, does neb yn mynd i edrych ar y marc a gawsoch chi am aseiniad ail flwyddyn ddwy flynedd yn ddiweddarach a chynnig swydd i chi ar sail y marc hwnnw.)
Gellir esbonio'r gwahaniaeth gwybyddol rhwng dechrau eich traethawd yn gynnar a llosgi'r gannwyll yn y ddau ben y noson cynt gan ddarn enwog o seicoleg wybyddol a elwir yn effaith Zeigarnik.
Roedd Zeigarnik yn fyfyriwr ymchwil o Rwsia yn yr Almaen, ac ynghyd â'i hathro a myfyrwyr eraill, byddai'n mynychu caffi lleol ar ôl darlithoedd. Sylwon nhw nad oedd y gweinyddwyr yn y caffi byth yn ysgrifennu dim – roedden nhw'n gallu cofio archebion cyfan ac am gyfnodau hir yn aml. Fodd bynnag, unwaith y byddai'r bil wedi cael ei dalu, pe bai rhywun yn ei gwestiynu, byddai'r gweinydd, yn ddi-ffael, wedi anghofio'r eitemau ar yr archeb.
Efallai y byddai rhywun yn dod i'r casgliad bod hon yn ffordd gyfrwys o wneud ychydig o arian ychwanegol ar gyfer y penwythnos, ond roedd Zeigarnik a'i chydweithwyr yn wyddonwyr, felly yn naturiol roedden nhw'n meddwl y gallai fod yn arwydd o rywbeth arall. Roedden nhw'n damcaniaethu pan fydd tasg heb ei gorffen, ei bod yn aros ar flaen y meddwl.
Felly profwyd mewn profion labordy bod cof cyfranogwyr yn llawer gwell mewn nifer o dasgau pan oedden nhw wedi'u hatal rhag gorffen y tasgau hynny.
Felly pam mae hynny'n wir, a sut mae'n berthnasol i ni yn y brifysgol? Wel, mae gwyddonwyr yn meddwl, pan fydd tasg heb ei gorffen, bod yr ymennydd yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i'n helpu i'w gorffen. Mae ein hymennydd yn synhwyro pob math o giwiau allanol sy'n ymwneud â'n pwnc na fydden ni wedi sylwi arnyn nhw fel arall o reidrwydd. Mae ychydig fel pan fyddwch chi'n prynu car newydd ac yn sydyn rydych chi'n gweld yr union gar ym mhobman. Yn achos myfyriwr sy'n ysgrifennu traethawd, efallai bod deunydd o'ch darlithoedd yn dechrau tanio syniadau fyddech chi erioed wedi'u cael neu mae sgyrsiau gyda chyd-fyfyrwyr yn ysbrydoli llwybrau newydd ar gyfer ymchwilio.
Felly gall gohirio weithio o'n plaid mewn gwirionedd, cyn belled â bod y dasg wedi'i dechrau. Gallwch gymhwyso hyn i'ch traethodau, ac efallai un ffordd o fynd ati fyddai edrych ar y teitl, gwneud rhywfaint o ddarllen ac efallai ysgrifennu drafft cyntaf, ond yna ei roi o'r neilltu am ychydig wythnosau. Efallai y gwelwch chi fod elfennau o ddarlithoedd, darnau o sgyrsiau neu hyd yn oed olygfeydd o ffilmiau neu raglenni teledu i gyd yn tanio syniadau na fyddech chi wedi'u cael o gwbl fel arall.