Canolfan Asesu DSA Prifysgol Abertawe
Croeso i'n canolfan!
Rydym yn dal i fod yn weithredol!
E-bostiwch ni bwcio
Mae croeso i chi drefnu apwyntiad gyda ni ble bynnag rydych yn astudio neu'n bwriadu astudio.
Byddwn yn trefnu apwyntiad i chi ar gyfer y cyfle cyntaf posib*.
Ein horiau swyddfa yw 09:00-16:30 ddydd Llun i ddydd Gwener.
Fel arfer cynhelir asesiadau rhwng 09:30 a 15:00.
Byddwn yn ceisio trefnu asesiadau ar adegau eraill ar gais.
*Mae gofyniad arnom yn ôl ein fframwaith sicrhau ansawdd i gynnig apwyntiad i chi ymhen 15 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, fel arfer gallwn drefnu cyfarfod â chi ymhen 5 diwrnod.
Rydym wedi ein lleoli ar lawr gwaelod Estyniad Adeilad Grove ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe, drws nesaf i'r Ganolfan Drawsgrifio. Hwn yw adeilad rhif 13 ar fap y campws.
- Dyma ddolen i'n lleoliad ar Google Maps.
- Ar gyfer defnyddwyr GPS, y cyfeirnod ar gyfer ein drws blaen yw lat 51°36'34.83"N, long 3°58'53.52"W
- Gallwch hefyd dorri a gludo 51 36.3483' N, 3 58.5352' W i Google Earth.
- Mae gwybodaeth am opsiynau trafnidiaeth i'n campws ar gael yma.
Ein cyfeiriad llawn yw:
Canolfan Asesu Lwfans Myfyrwyr Anabl Prifysgol Abertawe,
Estyniad Adeilad Grove,
Prifysgol Abertawe,
Parc Singleton,
Abertawe
SA2 8PP
Dilynwch y ddolen hon os dymunech ofyn cwestiwn am deithio i'r ganolfan neu am gael mynediad iddi
Yn ystod eich asesiad anghenion cewch gyfle i drafod effaith y cyflwr/cyflyrau a gymeradwywyd gan eich corff ariannu ar eich astudiaethau gydag aseswr profiadol.
Byddwn yn:
- dysgu am eich profiad a'ch cyrhaeddiad addysgol blaenorol.
- adolygu unrhyw dystiolaeth feddygol neu ddiagnostig a ddarparwyd.
- trafod unrhyw gymorth neu addasiadau ychwanegol a wnaethpwyd yn flaenorol.
- ymchwilio i unrhyw anawsterau a brofir wrth symud rhwng lefelau astudio.
- trafod anawsterau astudio sy'n bresennol nawr, neu sy'n debygol o fod yn bresennol wrth astudio yn y brifysgol.
- cytuno ar becyn cymorth yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglwyd, a rheoliadau canllawiau Lwfans Myfyrwyr Anabl eich corff ariannu.
Ni chynhelir unrhyw brofion yn ystod yr asesiad - dyma'ch cyfle i siarad ag arbenigwr am eich profiad a'ch anghenion addysgol.
Anelwn at dawelu eich meddwl yn ystod yr asesiad cymaint â phosib. Fodd bynnag, os yn angenrheidiol, gallwch drefnu dod â ffrind, rhiant, cynorthwyydd cymorth neu CPN i'r sesiwn. Nid oes angen i chi ddweud wrthym am hyn o flaen llaw, ond efallai y byddwn yn gofyn i'r person roi manylion am ei hun cyn i'r sesiwn ddechrau.
Dilynwch y ddolen hon os dymunech drafod â ni am yr hyn sy'n digwydd yn ystod yr asesiad.
Ni yw'r unig brif ganolfan asesu Lwfans Myfyrwyr Anabl â chyfleusterau llawn yn ardal Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.
Ers agor yn 2004 rydym wedi datblygu gwybodaeth ymarferol aruthrol am ddatrysiadau i gynorthwyo myfyrwyr anabl i astudio ar draws ystod eang o bynciau. Ein nod yw y gallwch ddefnyddio eich cymorth Lwfans Myfyrwyr Anabl i astudio'n hyderus tra hefyd yn cael eich paratoi'n llawn ar gyfer unrhyw heriau a all godi wrth i chi symud trwy eich cwrs.
Ein nod yw sicrhau bod eich profiadau wedi'u cynnwys wrth galon y broses asesu.
Dyluniwyd ein canolfan asesu a adnewyddwyd yn ddiweddar i fod yn amgylchedd ymlaciol lle gallwch drafod eich anghenion yn rhwydd.
Mae'n cynnwys:
- Aerdymheru.
- Detholiad o gadeiriau cyffyrddus a seddi swyddfa ergonomig.
- Prif oleuadau LED y gallwch addasu'r disgleirdeb.
- Goleuadau desg hyblyg i fanwl gyweirio'r amgylchedd.
- Cyfleusterau toiledau hygyrch yn y cyfleuster.
Dilynwch y ddolen hon os dymunech ofyn cwestiwn i ni am ein cyfleusterau
Yr hyn y mae ei angen arnom gennych chi
Gallwn gynnig asesiad i unrhyw fyfyriwr sydd wedi cyflwyno cais llwyddiannus am Lwfans Myfyrwyr Anabl trwy ei gorff ariannu (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru, Student Finance England neu GIG Cymru).
Bydd angen i ni dderbyn copi o'r dogfennau canlynol cyn eich asesiad:
- Eich llythyr cymeradwyo gan eich Corff Ariannu.
- Y dystiolaeth feddygol / adroddiad diagnostig a ddefnyddioch chi yn eich cais.
Os ydych chi'n profi trafferth yn dod o hyd i'ch dogfennaeth (neu unrhyw ymholiadau eraill ynghylch y maes hwn), cysylltwch â ni a byddwn yn eich cynghori ar yr hyn i'w wneud.
GWYBODAETH BELLACH
Os rhaid i mi dalu unrhyw beth tuag at fy Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)?
Darperir lwfansau myfyrwyr anabl i dalu'r gwahaniaeth rhwng costau y mae'r holl fyfyrwyr yn eu talu a’r costau ychwanegol, personol sy'n gysylltiedig ag astudio y gellir eu cael yn achos person ag anabledd. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr anabl gyfrannu tuag at gostau sy'n gysylltiedig â'r Lwfans Myfyrwyr Anabl, ond bydd hyn yn dibynnu ar eich corff cyllido. Dyma rai enghreifftiau o adegau lle gellir gofyn i chi wneud cyfraniad:
- Fel arfer, ni chodir tâl arnoch chi'n bersonol am Asesiad DSA. Caiff ffi gynhwysol nad yw'n fwy na £565 ei thalu gan eich corff cyllido (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru) i ni gwblhau'r asesiad, ysgrifennu adroddiad ac unrhyw waith dilynol y mae ei angen.
- Efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr Student Finance England gyfrannu tuag at gost offer cyfrifiadurol (heb fod yn fwy na £200 fel arfer). Os dywedir wrthych chi yn ystod eich asesiad bod yn rhaid i chi wneud cyfraniad ond rydych chi'n rhagweld anawsterau, dywedwch wrth eich aseswr. Bydd yn gallu rhoi gwybod i chi am opsiynau cymorth posib.
- Os argymhellir costau cludiant i chi (e.e. tacsi, neu filltiroedd) fel rhan o'ch DSA, bydd hyn bob amser yn llai na chost yr un daith ar gludiant cyhoeddus, neu swm sy'n gyfwerth â'r daith honno. Bydd angen i chi dalu'r cyfraniad hwn - bydd eich corff cyllido yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.
- Os ydych chi am ystyried uwchraddio offer cyfrifiadurol neu gymorth arall a argymhellir i lefel uwch, bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth rhwng yr hyn a argymhellir a chost yr uwchraddiad. Efallai y bydd hefyd angen i chi dalu gwarant a ffioedd yswiriant.
- Os cewch eich asesu cyn i chi gofrestru ar gwrs prifysgol, yn derbyn y cyfarpar a argymhellir, ond nad ydych chi'n dechrau'r cwrs (neu'r hyn sy'n gyfatebol), efallai y bydd eich corff cyllido yn gofyn i chi ddychwelyd elfennau o'r cyfarpar neu'r cyfarpar i gyd. Efallai y bydd hyn hefyd yn wir os byddwch chi'n tynnu'n ôl o gwrs yn yr wythnosau cynnar heb drosglwyddo i gwrs arall.
- Mae'n debygol y byddwch chi eisoes wedi talu am brawf diagnostig neu dystiolaeth feddygol er mwyn bodloni'r meini prawf cymhwysedd am Lwfans Myfyrwyr Anabl. Os byddwch chi'n datgelu cyflyrau ychwanegol rydych chi am i ni eu hystyried mewn perthynas â'r Lwfans Myfyrwyr Anabl, bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth addas i'ch corff cyllido. Mae posibilrwydd y gellir codi costau pellach er mwyn cael hyn. Rydym ni'n hapus i gynnig cyngor mewn perthynas â chyflyrau ychwanegol, a sut i ymdrin orau â nhw yng nghyd-destun y Lwfans Myfyrwyr Anabl.
- Gall cefnogaeth sydd wedi'i chynnwys gan y Lwfans Myfyrwyr Anabl amrywio dros amser. Mae posibilrwydd yr oedd cymorth ar gael ar lefel israddedig nad yw'n parhau i fod ar gael os byddwch chi'n symud ymlaen i gwrs ôl-raddedig.
Mae costau a chyfraniadau posib wedi'u rhestru yn y canllawiau gan eich corff cyllido y bydd yn rhaid i'ch aseswr wneud cais ar eu cyfer yn ystod eich asesiad. Caiff unrhyw gostau posib rydym ni'n ymwybodol ohonynt ar y pryd eu hesbonio'n glir yn ystod yr asesiad a'u nodi yn eich adroddiad Lwfans Myfyrwyr Anabl terfynol.
Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth o'i le
Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth o'i le
Pryderon cyffredinol
Fel arfer, bydd trefnu eich Lwfans Myfyrwyr Anabl yn cynnwys sawl sefydliad a pharti. Gall y rhain gynnwys:
- Eich corff ariannu
- Ni (y ganolfan asesu)
- Eich prifysgol neu ddarparwr addysg
- Darparwyr cyfarpar
- Hyfforddwyr
- Darparwyr cynorthwyol anfeddygol
- Darparwyr trydydd parti
- Darparwyr cludiant
Er ein bod ni'n gweithio'n galed i ragweld, nodi a datrys problemau neu oedi, weithiau gallant ddigwydd o hyd.
Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth o'i le gyda chynnydd eich Lwfans Myfyrwyr Anabl, mae croeso i chi gysylltu â ni. Byddwn yn ymdrechu i ymchwilio i'ch ymholiad ac yn rhoi barn onest am sut y gellir ei ddatrys. Os gallwn ni ddatrys y broblem ein hunain, byddwn yn eich cynghori chi pryd a sut rydym ni'n mynd i wneud hynny. Os ydym ni'n meddwl bod hyn yn berthnasol i barti arall, byddwn yn dweud hynny wrthych chi ac am y camau y gellir eu cymryd.
Pryderon mewn perthynas ag asesiad neu'r ganolfan hon
Yn ystod eich asesiad, bydd eich aseswr yn esbonio pa reoliadau sy'n berthnasol iddo, a'r hyn y gellir ei argymell a'r hyn na ellir ei argymell. Os ydych chi'n teimlo bod angen rhagor o amser arnoch chi i ddeall y manylion a'r argymhellion yn eich adroddiad, gallwch ofyn i weld a chymeradwyo copi drafft o'r adroddiad. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i chi drafod cynnwys yr adroddiad a'r penderfyniadau a wnaed ar eich rhan yn y ddogfen â'r aseswr os bydd angen. Os oes gennych chi bryderon am eich adroddiad, defnyddiwch yr opsiwn hwn. Gwneir penderfyniad ffurfiol ar yr adroddiad pan fyddwch chi wedi'i gymeradwyo.
Fel arall, mae gennych chi'r opsiwn i gytuno i argymhellion yr adroddiad yn ffurfiol o flaen llaw, ar ddiwedd yr asesiad. Dilynwch y ddolen hon os ydych chi'n poeni am eich adroddiad Lwfans Myfyrwyr Anabl ar ôl cytuno iddo.
Os na all yr asesydd ddatrys eich pryderon yn foddhaol, gellir trosglwyddo'r ymholiad i reolwr y ganolfan i'w ddatrys. Os nad yw hyn yn bosib, bydd y rheolwr yn eich gwahodd i gyflwyno cwyn ffurfiol drwy weithdrefn cwynion y Brifysgol. Bydd hyn yn sicrhau y caiff eich cwyn ei thrin mewn ffordd ddidduedd. Mewn rhai achosion, efallai bydd y mater y tu hwnt i gwmpas cylch gorchwyl y ganolfan asesu. Yn yr achos hwn, gall y rheolwr eich cyfeirio at weithdrefn cwynion parti arall (e.e. darparwr neu gorff cyllido). Gallwch chi hefyd ddilyn y ddolen hon os oes gennych chi bryderon am y ganolfan asesu
Cwyn ffurfiol
Os ydych chi'n teimlo bod rhywbeth wedi digwydd sy'n sail i gŵyn swyddogol, mae croeso i chi gyflwyno cwyn drwy weithdrefn cwynion y Brifysgol. Byddai hyn yn berthnasol p'un ai eich bod chi'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe ai peidio. Fodd bynnag, fel arfer byddem ni'n eich cynghori chi i siarad â ni am eich pryderon yn gyntaf (fel a nodwyd uchod).
Gellir darllen gweithdrefn cwynion Prifysgol Abertawe yma.
Sut rydym ni'n trin eich data
Dyma grynodeb o'n cyfrifoldebau trin data:
- Mae'r ganolfan yn rhan o gadwyn ddata'r Lwfans Myfyrwyr Anabl.
- Rydym ni dim ond yn casglu gwybodaeth gennych chi yn ôl anghenion cyrff cyllido.
- Mae angen gwybodaeth fanwl arnyn nhw am eich sefyllfa i'w cynorthwyo wrth ddyrannu cyllid Lwfans Myfyrwyr Anabl.
- Caiff eich adroddiad Lwfans Myfyrwyr Anabl a gwblhawyd ei drosglwyddo i'ch corff cyllido - byddwn yn cadarnhau eich bod chi'n hapus i hyn ddigwydd.
- Byddwn ni hefyd yn gofyn i chi a hoffech chi i ni anfon copi o'ch adroddiad Lwfans Myfyrwyr Anabl a gwblhawyd i'ch prifysgol/darparwr addysg ai peidio.
- Os ydym ni'n teimlo y byddech chi'n cael budd o gynnwys trydydd partïon eraill mewn agweddau ar eich asesiad, byddwn yn trafod hyn â chi, gan ofyn i chi a ydych chi'n fodlon â’r hyn rydym ni'n ei gynnig.
- Byddwn yn gofyn i chi lofnodi cytundeb rhannu data ar ran y corff archwilio ar adeg eich asesiad. Ni fydd rhoi cydsyniad i'r corff archwilio neu beidio’n effeithio ar ganlyniad eich dyfarniad am Lwfans Myfyrwyr Anabl.
- Mae gofyn i ni gadw'r wybodaeth rydym ni wedi'i chasglu gennych chi am gyfnod sylweddol o amser, gan ei bod hi'n bosib y bydd y corff cyllido yn gofyn i ni wneud gwaith dilynol ar unrhyw adeg yn ystod eich gyrfa addysg uwch sy'n weddill.
- Fodd bynnag, rydym ni'n debygol o gael gwared â’r holl wybodaeth sy'n gysylltiedig â chi os nad oes cysylltiad diweddar wedi bod â chi gan y corff cyllido, ac os nad ydym ni wedi clywed gennych chi'n bersonol ers saith mlynedd.
Os ydych chi am dynnu cydsyniad i rannu data'n ôl, dilynwch y ddolen hon.
Os ydych chi am ymarfer yr hawl i gael eich anghofio , dilynwch y ddolen hon.
Sylwer: gan ein bod ni'n rhan o gadwyn ddata, ni fydd gofyn am yr uchod yn berthnasol i bob sefydliad yn y gadwyn. Yn ogystal, gall gofyn am yr uched atal neu oedi ceisiadau dilynol am Lwfans Myfyrwyr Anabl. Byddwn yn eich cynghori chi am y risgiau hyn fesul achos pan fyddwn ni’n clywed gennych chi.
Mae ein polisi data llawn ar gael yma.
hygyrchedd
Defnyddiwch yr offer hygyrchedd ar frig y dudalen