Yn Abertawe, rydym yn cynnig sawl math o gwrs a addysgir mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc:
Tystysgrif Ôl-raddedig (PGCert): Mae Tystysgrif Ôl-raddedig yn cynnwys 60 o gredydau o fodiwlau a addysgir ac fel arfer mae'n para am 1 flwyddyn amser llawn neu 2 i 3 blynedd ar sail ran-amser. Yn ogystal â rhaglenni Tystysgrif Ôl-raddedig unigol, mae rhywfaint o'n cyrsiau gradd Meistr a addysgir yn cynnig y PGCert fel allanfa ar gwblhau 60 o gredydau o fodiwlau a addysgir.
Diploma Ôl-raddedig (PGDip): Mae Diploma Ôl-raddedig yn cynnwys 120 o gredydau o fodiwlau a addysgir ond yn wahanol i raglen Meistr a addysgir nid oes angen cwblhau traethawd hir. Mae hyd rhaglenni'n amrywio o bwnc i bwnc, ond fel arfer byddai PGDip yn para am gyfnod o 1 flwyddyn amser llawn a 2 i 3 blynedd ar sail ran amser. Yn ogystal â rhaglenni Diploma Ôl-raddedig unigol, mae rhywfaint o'n rhaglenni Meistr a addysgir yn cynnig y PGDip fel allanfa ar gwblhau'r modiwlau a addysgir.
Graddau Meistr a Addysgir (e.e. MA, MSc, LLM, MBA): Fel arfer mae rhaglen Meistr a addysgir yn para am 1 flwyddyn ar sail amser llawn a 2 i 3 blynedd ar sail ran amser. Os dewisoch astudio ar sail amser llawn, byddwch yn dilyn modiwlau a addysgir am gyfnod o 9 mis, yna'n treulio 3 mis yn cyflawni traethawd hir neu brosiect o'ch dewis. Mae cynlluniau gradd Meistr a addysgir yn fodiwlaidd o ran strwythur a bydd angen i chi ennill cyfanswm o 180 o gredydau i fod yn gymwys i dderbyn y radd: 120 o gredydau ar gyfer modiwlau a addysgir (Rhan I) a 60 o gredydau ar gyfer y traethawd hir (Rhan II). Bydd angen i chi lwyddo i gwblhau Rhan I cyn caniateir i chi symud i Ran II.
Mae ein rhaglenni gradd Meistr a addysgir yn cynnwys cyrsiau sgiliau ymchwil a methodoleg, a chyrsiau hyfforddiant adrannol penodol sy'n hanfodol ar gyfer myfyrwyr ar lefel gradd Meistr neu'r sawl sy'n dymuno dilyn graddau uwch. Mae cyrsiau hyfforddiant arbenigol ychwanegol hefyd ar gael drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Archwiliwch ein hystod o gyrsiau ôl-raddedig a addysgir.