Wrth ddechrau rhaglen ymchwil, un o’r tasgau pwysicaf y bydd angen i chi ei gwneud yw dewis goruchwyliwr academaidd.
Beth yw rôl goruchwyliwr?
Yn syml, rôl goruchwyliwr yw eich cynorthwyo a’ch cefnogi drwy gydol eich gwaith ymchwil. Bydd eich goruchwyliwr yn:
- Eich helpu i ddatblygu eich cynllun ymchwil yng nghamau cynnar eich PhD
- Rhoi cyngor ar nodau ac amcanion ymchwil ac yn awgrymu cyrsiau hyfforddiant neu sgiliau perthnasol
- Rhoi cyfarwyddwyd o ran llenyddiaeth a ffynonellau perthnasol
- Rhoi arweiniad o ran casglu, cofnodi a dadansoddi data
- Goruchwylio eich gwaith ysgrifenedig, yn cynnig beirniadaeth adeiladol ac yn sicrhau eich bod yn cadw at ddyddiadau cau
- Rhoi cymorth a chyngor pan fyddwch yn cyflwyno papurau mewn cynadleddau, yn cyhoeddi eich gwaith ac yn mynd i’ch viva (yr arholiad llafar terfynol ar eich traethawd ymchwil)