Rydym yn cynnig sawl math o radd ymchwil yn Abertawe:
Graddau ymchwil Meistr:
MA/MSc/LLM drwy Ymchwil: Dyma raglenni ymchwil byrrach sy’n para am flwyddyn fel arfer wrth astudio’n amser llawn, neu dwy neu dair blynedd yn rhan-amser. Byddwch yn gwneud prosiect ymchwil unigol, a fydd yn arwain at lunio traethawd ymchwil 30,000 o eiriau.
MRes: Nod yr MRes (Meistr mewn Ymchwil) yw rhoi’r sgiliau a’r hyfforddiant ymchwil angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer gyrfa broffesiynol neu symud ymlaen at astudiaethau academaidd.Wrth astudio rhaglen MRes, byddwch yn astudio ystod o fodiwlau a addysgir ac yn llunio traethawd ymchwil ar sail prosiect ymchwil estynedig.Mae rhaglenni MRes ar gael mewn disgyblaethau gwyddoniaeth neu beirianneg yn unig, ac maen nhw’n para rhwng un a thair blynedd.
MPhil: Mae’r MPhil (Meistr mewn Athroniaeth) yn gofyn i fyfyrwyr gyflwyno traethawd ymchwil hyd at 60,000 o eiriau.Bydd hefyd rhaid i chi fynd i arholiad llafar (viva) lle caiff eich traethawd ymchwil ei asesu gan ddau arholwr neu ragor.Efallai y bydd cyfle i ‘uwchraddio’ eich MPhil i gymhwyster PhD yn ystod eich astudiaethau.Fel arfer mae’r MPhil yn ddwy flynedd amser llawn neu’n bedair i bum mlynedd yn rhan-amser.
Graddau ymchwil doethurol:
PhD: Mae rhaglenni PhD fel arfer yn para am dair blynedd wrth astudio’n amser llawn, neu chwech neu saith mlynedd yn rhan-amser. Byddwch yn gwneud gwaith ymchwil dan oruchwyliaeth yn annibynnol neu fel rhan o dîm. Asesir drwy draethawd ymchwil o hyd at 100,000 o eiriau y mae’n rhaid iddo ddangos gallu’r myfyriwr i gynnal ymchwil wreiddiol ac a ddylai fod yn gyfraniad gwahanol ac arwyddocaol i’r pwnc. Bydd angen i chi fynd i arholiad llafar (viva) i asesu eich traethawd ymchwil. Mae blwyddyn gyntaf eich PhD yn gyfnod dan brawf, a bydd angen i chi lwyddo mewn asesiad adrannol cyn parhau â’ch astudiaethau.
EngD: Nod y Ddoethuriaeth Beirianneg yw paratoi myfyrwyr peirianneg at yrfaoedd ymchwil yn y diwydiant, a chaiff ei chefnogi’n llawn gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC). Mae’r cynllun pedair blynedd hwn yn cynnwys blwyddyn o fodiwlau a addysgir ac yna prosiect ymchwil sy’n gysylltiedig â’r diwydiant.
MD: Yn ogystal â’r PhD, mae Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe yn cynnig y cymhwyster ôl-raddedig, Athro mewn Meddygaeth (MD) trwy ymchwil dan oruchwyliaeth mewn grwpiau ymchwil unigol.Rhaglen dwy flynedd amser llawn neu bedair i bum mlynedd rhan-amser yw hon.
DProf: Gradd ymchwil wedi’i strwythuro o amgylch maes penodol o ymarfer proffesiynol yw Doethuriaeth Broffesiynol, ac mae’n cymryd pedair blynedd i’w chwblhau’n amser llawn a chwe blynedd yn rhan-amser. Byddwch yn dilyn rhaglen o astudiaeth gyfeiriedig, gan gynnwys cyfnodau o ymarfer a hyfforddi proffesiynol/diwydiannol a gymeradwywyd yn ogystal â rhaglen o ymchwil. Mae’n cynnwys traethawd ymchwil o hyd at 80,000 o eiriau fel rhan o’r asesiad.
Edrychwch ar ein hystod o raglenni ymchwil ôl-raddedig.