Bydd prosiect a gynlluniwyd ymlaen llaw yn aml yn rhan o waith ymchwil ehangach a wneir gan academydd neu grŵp ymchwil. Fel arfer bydd teitl a nodau ac amcanion penodol i'r mathau hyn o brosiectau, a byddwch fel rheol yn cael eich goruchwylio gan yr academydd a gynlluniodd y prosiect. Mae Prifysgol Abertawe yn hysbysebu nifer fawr o'r cyfleoedd hyn drwy gydol y flwyddyn academaidd ym mhob maes pwnc.
Ysgoloriaethau ymchwil yw prosiectau PhD a gynlluniwyd ymlaen llawn sydd â chyllid cysylltiedig. Mae'r cyllid hwn fel arfer yn talu am gost lawn ffioedd dysgu'r DU/yr UE (weithiau caiff ffioedd rhyngwladol eu talu), yn ogystal â chyflog a delir bob blwyddyn am gyfnod y prosiect.
Caiff prosiectau PhD a hunanariennir eu cynllunio ymlaen llaw gan academydd, ond nid oes cyllid yn gysylltiedig â nhw. Disgwylir i chi dalu cost lawn y ffioedd dysgu eich hunan, a thalu am eich costau byw ar gyfer cyfnod eich astudiaethau.
Hysbysebir yr holl brosiectau a gynlluniwyd ymlaen llaw ar ein tudalennau gwe ysgoloriaethau ymchwil neu graddau PhD a hunanariennir, a chaiff cyfleoedd newydd eu hychwanegu'n rheolaidd.
Cyllid
Mae ysgoloriaethau ymchwil yn Abertawe fel arfer yn cynnig cyllid ar gyfer cyfnod eich astudiaethau. Mae'r cyllid hwn fel arfer yn talu am gost lawn ffioedd dysgu'r DU/yr UE (weithiau caiff ffioedd rhyngwladol eu talu), yn ogystal â chyflog a delir bob blwyddyn am gyfnod y prosiect. Mae'r cyflog yn ddi-dreth, a gellir ei ddefnyddio i dalu eich costau byw pan fyddwch yn astudio.
Os ydych yn astudio prosiect PhD a hunanariennir, disgwylir i chi dalu cost lawn y ffioedd dysgu eich hunan, a thalu am eich costau byw am hyd eich astudiaethau.
Mae benthyciadau PhD ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n byw yng Nghymru a Lloegr sy’n ymgymryd ag astudiaethau doethurol. Ni fyddwch chi’n gallu cyflwyno cais am fenthyciad PhD os ydych chi’n derbyn ysgoloriaeth a ariennir gan gyngor ymchwil neu gyllid arall gan y llywodraeth.
Gwneud cais
Mae gwneud cais am brosiect a gynlluniwyd ymlaen llaw yn syml – yr unig beth y bydd angen i chi ei wneud bydd dilyn y cyfarwyddiadau ar hysbyseb y prosiect. Fel arfer bydd y broses gwneud cais yn cynnwys cyflwyno rhai (neu bob un) o'r dogfennau canlynol:
- Ffurflen gais
- Curriculum Vitae (CV)
- Llythyr eglurhaol
- Geirdaon
- Tystysgrifau Iaith Saesneg (os nad Saesneg yw eich mamiaith)
Mae'n syniad da cysylltu â'r goruchwyliwr a enwyd wrth wneud cais i drafod y prosiect ymhellach a sicrhau ei fod (a'r goruchwyliwr) yn addas i chi. Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer o ganlyniad i'ch cais, fe'ch gwahoddir i gyfweliad a chewch wybod y canlyniad yn fuan wedi hynny.
Fel arfer bydd dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais a dyddiad dechrau penodol ar gyfer prosiectau a gynlluniwyd ymlaen llaw – rhowch ddigon o amser i'ch hunan i gwblhau unrhyw waith papur a chasglu geirdaon os oes angen.