Deilliodd Partneriaeth Strategol Tecsas y Brifysgol o berthnasoedd ymchwil a ddatblygodd o'r Cydweithrediad rhwng Tecsas a'r DU a noddwyd gan y Llywodraeth ac mae cydweithrediadau ymchwil yn parhau wrth wraidd y bartneriaeth.
Wedi'u meithrin a'u cefnogi gan gronfa cyllid benodol a rhaglen ddwys o ryngweithiadau rhwng ymchwilwyr, mae'r cydweithrediadau hyn yn dod â rhai o academyddion mwyaf blaenllaw’r byd ynghyd a gyfunodd eu synergeddau ymchwil a'u harbenigedd ategol i gyflawni prosiectau ymchwil newydd, ceisiadau ar y cyd am grantiau, rhwydweithiau academaidd newydd, cynadleddau a phapurau cynhadledd ar y cyd ac i gyflwyno papurau i gyfnodolion ar y cyd ar ddwy ochr yr Iwerydd.
Gallwch ddarllen rhai o'n hastudiaethau achos isod neu lawrlwytho ein Llyfryn Partneriaeth Strategol Tecsas
Yn gryno
- 253 o gyhoeddiadau ar y cyd ers 2012
- Dros 27,000 o ddyfyniadau
- Cydweithrediadau ymchwil ar draws yr holl Golegau academaidd
- Cydweithrediadau yn y Biowyddorau, mewn Busnes, Cyfrifiadureg, Economeg, Peirianneg, Saesneg, Gwyddor Iechyd, Ieithoedd a Etifeddir, Hanes, y Gyfraith, Gwyddorau Bywyd, Meddygaeth, Ffiseg, Gwleidyddiaeth, Gwaith Cymdeithasol
Prisiau Olew a Hylifedd Ariannol
Gwyddor Chwaraeon
Mae meta-ddadansoddiad gan Dr Kelly Mackintosh o Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Abertawe a chydweithwyr o Brifysgol A&M Tecsas a sefydliadau eraill ar fin cael ei gyhoeddi yn y Journal of Sport and Health Science.
Nod y cydweithrediad, a adolygodd 57 astudiaeth flaenorol, oedd asesu effeithiolrwydd ymyriadau yn yr ysgol wrth gynyddu gweithgarwch corfforol a/neu leihau amser eisteddog ymhlith plant. Ni welodd yr ymchwilwyr dystiolaeth bod ymyriadau wedi cael effaith ar yr amser roedd plant yn ei dreulio'n gwneud gweithgarwch corfforol cymedrol i egnïol - canfyddiadau y mae ganddynt oblygiadau pwysig ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
Galluogodd grant teithio Erasmus+ Dr Grazia Todeschini o'r Coleg Peirianneg i ddatblygu cydweithrediad ym Mhrifysgol Tecsas yn Austin. Gan adeiladu ar ddiddordebau cyffredin mewn cyfyngiadau o ran lefelau pŵer ffotofoltäig ar gyflenwyddion dosbarthu, algorithmau rheoli ar gyfer systemau rheoli adnoddau ynni dosbarthedig ac algorithmau rheoleiddio foltedd, mae'r ymchwil yn archwilio dulliau gwahanol i leihau ymyriadau ag ansawdd pŵer mewn systemau trydanol.
Cyflwynwyd dau bapur yn seiliedig ar y gwaith hwn yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas Pŵer ac Ynni Sefydliad y Peirianwyr Electronig a Thrydanol (IEEE), a chyhoeddwyd pedwar papur arall yn Nhrafodion yr IEEE a chyfnodolion yr IET.
Derbyniodd Dr Eoin Price o'r Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Ddyfarniad Cyllid Cydweithredu Tecsas i ddatblygu cydweithrediad â chydweithwyr ym Mhrifysgol A&M Tecsas. Roedd yn gallu ymgysylltu ag arbenigwyr hanes llyfrau, cymryd rhan mewn gweithdy hanes llyfrau a chyflwyno papur am ailargraffu ac adfywio a arweiniodd at wahoddiad i'w gyhoeddi mewn rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn Shakespeare Bulletin.
Yn dilyn ei ymweliad, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil yng Nghanolfan Harry Ransom Prifysgol Tecsas yn Austin i Dr Price, gan ganiatáu iddo ymgymryd ag ymchwil yn ei harchif Celfyddydau Perfformio ar gyfer ei brosiect nesaf, Early Modern Drama and the Jacobean Aesthetic.
Cyhoeddwyd canlyniadau'r ymchwil sydd ar y gweill rhwng cyfrifiadurwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Houston yn y cyfnodolyn IEEE Transactions on Visualization and Computer Graphics. Mae'r papur, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Dr Bob Laramee o Abertawe a chydweithwyr o Brifysgol Houston, yn canolbwyntio ar y gydberthynas linol a dibyniaeth aflinol priodweddau ffisegol gwahanol llifoedd ansefydlog er mwyn hwyluso eu hastudio o safbwynt newydd.
Sefydlwyd y cydweithrediad rhwng Dr Laramee a Dr Guoning Chen o Brifysgol Houston yn 2009 ac ar y cyd â chydweithwyr, maent wedi cyhoeddi 11 papur mewn cyfnodolion a dwy bennod llyfr ac wedi cyflwyno wyth papur ar y cyd mewn cynadleddau.
Y gydberthynas fyd-eang rhwng prisiau olew, hylifedd ariannol a risg geo-wleidyddol yw thema cydweithrediad ymchwil rhwng Dr Hany Abdel-Latif o'r Ysgol Reolaeth a'r Athro Mahmoud el-Gamal o Brifysgol Rice.
Eu gwaith ymchwil, a gyhoeddwyd yn Applied Economics Letters a'r Fforwm Ymchwil Economaidd, yw'r prosiect cyntaf i ystyried pob un o'r tri newidyn byd-eang ar yr un pryd, ac mae'n dod i'r casgliad y byddai gostyngiad sylweddol mewn prisiau olew yn cynyddu risg geo-wleidyddol ac yn lleihau hylifedd ariannol byd-eang, tra byddai cynnydd mewn risg geo-wleidyddol yn arwain at gynnydd mewn prisiau olew - cylch a welwyd yn ystod Rhyfel cyntaf Irac.
Prisiau Olew a Hylifedd Ariannol
Yn rhan o rwydwaith diogelwch ynni byd-eang â chysylltiadau cryf â Thecsas, mae gan Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni Prifysgol Abertawe (ESRI) nifer o gydweithrediadau ar y gweill â sefydliadau partner yn Nhecsas.
Mae'r rhain yn cynnwys prosiect sydd ar y gweill gyda Phrifysgol A&M Tecsas ar addasiad ffisegol i nanodiwbiau copr-carbon dargludol uwch, a chydweithrediad â Phrifysgol Rice a GE (Efrog Newydd) ar brosiect i greu ceblau dargludol iawn wedi'u gwneud o nanodiwbiau copr a charbon. Mae'r ail brosiect ymchwil, a ariennir gan Swyddfa Ymchwil y Llynges (ONR), wedi arwain at ddau gais am batent a saith cyhoeddiad a adolygwyd gan gymheiriaid hyd yn hyn.
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Fulbright i'r Athro Tudur Hallam o Academi Hywel Teifi i'w alluogi i dreulio saith mis ym Mhrifysgol Houston yn gweithio ar brosiect i archwilio sut caiff ieithoedd, diwylliannau a llenyddiaethau lleiafrifol eu llethu a'u hadfywio.
Gan weithio gyda'r Athro Nicolas Kanellos o Brifysgol Houston, archwiliodd ei ymchwil y cyffelybiaethau rhwng y ddynameg Cymraeg/Saesneg a'r ddynameg Sbaeneg/Saesneg yn Nhecsas, a'r cyffelybiaethau rhwng gwaith yr Athro Kanellos ym maes adfer treftadaeth lenyddol Sbaeneg yr UD a gwaith ysgolheigion Cymraeg megis Saunders Lewis a fu’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae'r Athro Paul Rees a'r Athro Huw Summers o'r Ganolfan Nanodechnoleg Amlddisgyblaethol yn gweithio gyda chydweithwyr yng Nghanolfan Feddygol Tecsas i ddatblygu technegau arloesol newydd i drin tiwmorau canser.
Mae eu rhwydwaith ymchwil helaeth yn cynnwys ymchwilwyr o fri rhyngwladol ym meysydd nanofeddygaeth a biobeirianneg o Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston (HMRI) a Choleg Meddygaeth Baylor, y maent wedi ysgrifennu dros 10 papur ymchwil ar y cyd â nhw.
Mae'r cydweithrediad hwn ag HMRI yn ymchwilio i ddefnyddio nanoronynnau at ddiben cludo cyffuriau therapiwtig i safleoedd tiwmor penodol, techneg a allai leihau sgil effeithiau cyffuriau'n sylweddol.
Cyhoeddiadau diweddar
- Designing a Curriculum Based on Four Purposes: Let Mathematics Speak for Itself - gyda Phrifysgol A&M Tecsas
- Probing the Frequency-Dependent Elastic Moduli of Lattice Materials - gyda Phrifysgol Tecsas yn Austin
- Concentrations of Bile Acid Precursors in Cerebrospinal Fluid of Alzheimer's Disease Patients - gyda Phrifysgol Houston
- Impact on Property Values of Distance to Parks and Open Spaces: An update of U.S. studies in the New Millennium - gyda Phrifysgol A&M Tecsas
Cyhoeddiadau diweddar
- Microwave Treatment of a Hot Mill Sludge from the Steel Industry: En Route to Recycling an Industrial Waste - gyda Phrifysgol Rice
- Sensing Temperature in Vitro and in Cells Using a BODIPY Molecular Probe - gyda Choleg Meddygaeth Baylor
- Understanding Software Engineers’ Skill Development in Software Development - gyda Phrifysgol A&M Tecsas
- Nanotechnology and Immunotherapy in Ovarian Cancer: Tracing New Landscapes - gyda Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston
Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol