Wedi'i sefydlu ym 1927, Prifysgol Houston yw'r drydedd brifysgol fwyaf yn Nhecsas a hwn yw'r sefydliad mwyaf blaenllaw yn System Prifysgolion Houston.
Mae'n cael ei ystyried yn un o golegau gorau'r Unol Daleithiau (US News & World Report) ac mae'n brifysgol ymchwil Haen Un Carnegie. Mae ganddi 41,000 o fyfyrwyr o dros 137 o wledydd a hon yw'r ail brifysgol ymchwil fwyaf amrywiol ei hethnigrwydd yn yr Unol Daleithiau.
Lleolir y Brifysgol yn Houston, Tecsas, pedwaredd ddinas fwyaf UDA a phrifddinas ynni'r byd.