Wyt ti'n fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe a hoffai fod yn rhan o'n tîm?
Mae'r Sefydliad Diwylliannol yn meithrin partneriaethau â sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, yn ogystal â'r diwydiant cyhoeddi.
Mae ein prosiectau allweddol yn cynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, y wobr lenyddiaeth fwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc, i gyfres salon llenyddol sy'n cynnwys rhai o'r ysgrifenwyr mwyaf cyffrous o Gymru a'r tu hwnt, cymryd rhan yn Being Human, sef unig Ŵyl y Dyniaethau genedlaethol yn y DU a rhaglen addysgol helaeth ar gyfer ysgolion a cholegau o'r enw 'DylanED'.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid megis Amnesty International UK, Achub y Plant, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, British Council Cymru a Gŵyl y Gelli.
Eisiau rhagor o wybodaeth? Llenwch y ffurflen hon a byddwn yn cysylltu â chi!
*CYFLEOEDD DIWEDDARAF*
'Words that Burn' - Cyfleoedd am interniaethau â thâl ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig o Brifysgol Abertawe mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.
Mae prosiect ‘Words that Burn’ yn fenter gyffrous sy'n canolbwyntio ar addysg Hawliau Dynol ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3. Mae'r fenter, a arweinir gan Dr Elaine Canning o Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe, yn rhan o raglen fawr o weithgareddau allgymorth DylanED sydd wedi cael ei hariannu drwy gyllid hael gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies mewn cydweithrediad ag Amnesty International UK (AIUK). Nod y prosiect yw grymuso pobl ifanc i ddysgu am hawliau dynol a theimlo eu bod wedi'u gwerthfawrogi fel beirdd a gwneuthurwyr newid.
MWY O WYBODAETH A SUT I WNEUD CAIS: 'Words that Burn'