Nawr ar agor ar gyfer ceisiadau

Cystadleuaeth ysgrifennu genedlaethol mawr ei bri ar gyfer ysgrifenwyr a anwyd neu sy’n byw yng Nghymru yw Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies. Cafodd y gystadleuaeth ei chreu nôl ym 1991 ac rydyn ni’n falch iawn o allu i rheoli wobr hon y mae sôn mawr amdani ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ar y cyd â Parthian Books.

Ynglŷn â Rhys Davies

Rhys Davies

Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach ger Tonypandy yn y Rhondda ym 1901, gyda’r ysgrifenwyr rhyddiaith Cymreig mwyaf ymroddedig, toreithiog a medrus a oedd yn ysgrifennu’n Saesneg. Gan ymroi’n ddiwyro a heb fawr o barch tuag at lwyddiant masnachol, bu’n ymarfer crefft yr ysgrifennwr am ryw bum deg o flynyddoedd ar ffurf y stori fer a’r nofel gan gyhoeddi yn ystod ei oes gorff sylweddol o waith sydd bellach yn waddol i’w fri llenyddol. Rhwng popeth, ysgrifennodd fwy na chant o straeon, ugain nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffigol am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant.

Gwobrau

  • Gwobr 1af - £1,000 o bunnoedd sterling a chaiff y cais buddugol ei gyhoeddi mewn antholeg o straeon byrion a gyhoeddir gan Parthian Books yn 2026.

  • Gwobr arall/Rownd derfynol gwobrau - £100 yr un a chaiff y ceisiadau eu cyhoeddi mewn antholeg o straeon byrion a gyhoeddir gan Parthian Books yn 2026.

Sut y Gystadlu

Ar agor ar gyfer ceisiadau: DYDD GWENER 28ain  TACHWEDD 2025
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: DYDD LLUN 16eg CHWEFROR 2026 AM HANNER NOS

Sut y Gystadlu:

  1. Darllenwch y Rheolau, Telerau ac Amodau Mynediad - Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2026
  2. Dalu’r ffi gystadlu ac i gael eich cyfeirnod unigryw CLICIWCH YMA. I gael manylion am gymhwysedd i gael mynediad am ddim, edrychwch ar y telerau ac amodau.
  3. Llenwch y ffurflen gais CLICIWCH YMA.
a photo of Tyler Keevil from the chest up. He is wearing a dark jacket and sweater

Mae’n bleser mawr gennym ni gyhoeddi y bydd Tyler Keevil yn feirniad gwadd ar gyfer cystadleuaeth 2026

Cafodd Tyler Keevil ei fagu yn Vancouver a symudodd i Gymru yn ei ugeiniau. Mae'n awdur sawl nofel a'r casgliad o straeon, Burrard Inlet (Parthian). Mae ei lyfrau wedi cael eu cyfieithu i amrywiaeth o ieithoedd ac mae wedi ennill nifer o wobrau am ei waith, gan gynnwys Gwobr Journey, Dewis y Bobl yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru, a Gwobr Jeffrey E Smith y Golygyddion gan The Missouri Review. Mae'n addysgu Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n byw gyda'i deulu yn ne Cymru.

 

CWESTIYNAU CYFFREDIN YNGHYLCH CANLLAWIAU'R GYSTADLEUAETH