Trosolwg
Mae Andrew yn gweithio yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau ymchwil ym maes moeseg chwaraeon ac yn arbennig moeseg polisi gwrth-dopio.
Mae Andrew hefyd ar fwrdd golygyddol y cyfnodolyn Performance Enhancement & Health.
Ar hyn o bryd mae'n addysgu ar Radd Meistr Erasmus Mundus mewn Moeseg Chwaraeon ac Uniondeb ac ar y BSc mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe.