Trosolwg
Mae Alex yn Ddarlithydd ac yn Nyrs Iechyd Meddwl gofrestredig a ymunodd â'r Brifysgol yn 2022.
Mae gan Alex gefndir mewn gweithio yn y GIG ac yn y sectorau gofal iechyd annibynnol, mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol a chleifion mewnol fel ymarferydd ac wrth reoli gwasanaethau. Mae ei brofiad o'r ymdeimlad o ddatgysylltiad a brofwyd weithiau gan staff gofal iechyd wedi arwain at ei rôl bresennol mewn Gwybodeg Iechyd.
Mae gan Alex ddiddordeb yn yr amrywiaeth o strwythurau gwasanaethau a'r llywodraethu priodol y mae'n rhaid i'w gyd-ymarferwyr lynu wrthynt yn eu gwaith. Mae rôl iechyd a gofal digidol wedi dod yn bwysicach i'w hystyried, ac mae gan Alex ddiddordeb proffesiynol hirdymor mewn gwella ansawdd gofal, profiad cleifion ac effeithlonrwydd gwasanaethau drwy arloesi digidol.