Dr Alla Silkina

Dr Alla Silkina

Swyddog Ymchwil
Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 9253

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
131C
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Alla Silkina yn Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy i; brosiectau Algal Biotechnology for Wales KTC, ACCOMPLISH A4B CIRP, Advanced Bio-Products A4B, EnAlgae INTERREG, BioAlgaeSorb a Shell Plant FP 7 sy’n gweithredu o’r Ganolfan ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Alla yn gweithio yn y sector biotechnoleg gymhwysol gydag arbenigedd ar ffisioleg algaidd a phigmentau algaidd. Mae ei sgiliau’n cynnwys triniad màs microalgâu, cynnal a chadw PBR ac optimeiddio cineteg twf. Mae ei harbenigedd yn seiliedig ar asesiadau twf a ffisioleg algaidd mewn ymateb i amodau meithriniadau gan ddefnyddio dyluniadau ar raddfa fawr a bach o adweithyddion optimeiddio.

Mae ei phrif weithgareddau’n cynnwys datblygu Cynhyrchion, dadansoddi puriadau, prosesu i lawr yr afon, optimeiddio amodau twf ar gyfer pigmentau a phrosesau cynhyrchu moleciwlau eraill.

Mae gan Alla 5 mlynedd o brofiad diwydiannol ym maes ymchwil cymhwysol gan gydweithio â chydweithrediadau o’r byd Busnes a’r byd Academaidd. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd 65 o fusnesau bach a chanolig o Gymru a 50 o fentrau, sefydliadau neu grwpiau cymdeithas y tu allan i Gymru gymorth, a rhoddwyd cefnogaeth ac arbenigedd ym maes biotechnoleg algaidd.