Trosolwg
Mae fy niddordebau ymchwil ym maes ffederaliaeth gymharol, cydgysylltu rhynglywodraethol a llywodraeth leol a chynnwys cenhedloedd mewnol mewn cymdeithasau amrywiol. Roeddwn yn Gyd-Ymchwilydd ar brosiect ymchwil ‘Dynamics of group conflicts in multinational, multi-level states’ ym Mhrifysgol Konstanz (Prif Ymchwilydd: Yr Athro Nathalie Behnke) a oedd yn ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng pleidiau rhanbarthol anwladwriaethol a datganoli sy’n hunanatgyfnerthu. Cyn dod i Brifysgol Abertawe, gweithiais fel Cymrawd Ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caeredin ar brosiect ymchwil a ariannwyd gan ESRC, ‘The Future of the UK and Scotland’ yn wyneb Refferendwm Annibyniaeth yr Alban 2014.
Mae fy ymchwil wedi’i chyhoeddi mewn cylchgronau rhyngwladol blaenllaw fel Publius, Regional & Federal Studies a Political Quarterly a gydag Oxford University Press. Yn 2017, roeddwn yn olygydd gwadd ar rifyn arbennig o Publius: The Journal of Federalism ar ‘Territorial Politics and Institutional Change: A Comparative-Historical Analysis’, ar y cyd â Jörg Broschek (Prifysgol Wilfried Laurier) a Simon Toubeau (Prifysgol Nottingham).