Trosolwg
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar yr amrywiaeth annisgwyl o batrymau llif a ddarganfyddwn mewn llifoedd amlgam, gronynnog a hylif cymhleth. Rydym yn astudio sut mae patrymau llif ar raddfa fawr yn deillio o gyfuniad o ficrostrwythur yr hylif, a'r grymoedd gludiog, capilarïaidd, ffrithiant a disgyrchiant sy'n gweithredu ar y system. Mae ein canlyniadau'n rhoi esboniadau am ffenomena sy'n digwydd yn naturiol mewn llifau geoffisegol, ac yn helpu i optimeiddio prosesau wedi'u peiriannu megis adfer pridd, adfer olew a nwy, a dal a storio carbon deuocsid.
Darllenwch fwy ar dudalen we'r Labordy Llif Cymhleth.