Professor Carole Llewellyn

Yr Athro Carole Llewellyn

Athro Emeritws (Gwyddoniaeth)
Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606168

Trosolwg

Mae diddordebau’r Athro Carole Llewellyn mewn algâu micro a cyanobacteriwm; y ffordd y maen nhw’n gweithredu yn eu hamgylchedd naturiol yn enwedig mewn perthynas â ffotoffisioleg. Mae ganddi ddiddordeb hefyd yn y ffordd y gellir defnyddio algâu i helpu i fynd i’r afael â heriau mawr cymdeithas. Mae’r heriau mawr hyn yn ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd, iechyd dynol, bio-ynni, diogelwch-bwyd, dyframaethu, dŵr gwastraff a bioadfer llygredd, biodechnoleg ddiwydiannol a’r economi gylchol.

Roedd ei gwaith ymchwil cynnar yn canolbwyntio ar yr astudiaeth o bigmentau cloroffyl a charotenyn er mwyn deall cyfansoddiad a swyddogaeth gymunedol ffytoplancton mewn perthynas â’r cylchred carbon a newid yn yr hinsawdd. O hyn, fe ddatblygodd diddordeb mewn biotechnoleg algaidd gan ddefnyddio ei gwybodaeth am garotenau microalgaidd a chyfansoddion eli haul uwchfioled gan gydweithio â’r diwydiant i ddatblygu cynhyrchion gofal personol gwrth-heneiddio a chynnyrch cosmetig.

Mae hyn wedi arwain at ei diddordeb ehangach mewn deall metabolaeth mewn algâu micro ac at waith trin algâu mirco ar raddfa fawr ar gyfer cynhyrchion sy’n ddefnyddiol yn ddiwydiannol gan gynnwys bwyd a chemegion cynaliadwy y gellir eu defnyddio yn lle cemegion seiliedig ar betroliwm.

Mae wedi arwain nifer o brosiectau a ariannwyd gan Gynghorau Ymchwil, Innovate-UK ac Ewrop gan gydweithio’n aml â diwydiant er mwyn datblygu atebion cynaliadwy gan ddefnyddio algâu micro. Ar hyn o bryd, mae’n arwain prosiect ALG-AD Gogledd Gorllewin Ewrop Interreg yr UE (ALG-AD) yn datblygu’r economi gylchol gan ddefnyddio gwastraff o broses anaerobig o dreulio bwyd a gwastraff fferm i drin algâu ar gyfer bwyd anifeiliaid a chynhyrchion gwerth uchel.

Gallwch ddysgu mwy yma.

Meysydd Arbenigedd

  • Algâu micro a cyanobacteriwm
  • Ecoleg ffytoplancton
  • Bioamrywiaeth a biocemeg fircrobaidd
  • Cloroffyl a charotenau
  • Eli haul uwchfioled microbaidd – asidau amino fel mycosporin
  • Biotechnoleg Algaidd
  • Metabolomeg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

BIO103 Planhigion ac Algâu; Amrywiaeth, Ffurf a Swyddogaeth

BIO109 Sgiliau Craidd ar gyfer Gwyddorau Biolegol

BIO343 Cynhyrchion Naturiol sy’n Ffurfio Ein Byd