Trosolwg
Rwy'n swyddog ymchwil ac wedi fy lleoli yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol (CIA) ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar brosiect Active Building Centre (ABC). Nod y prosiect hwn yw cyfuno technolegau solar a thechnoleg carbon isel / sero â dylunio a gweithredu adeiladau i drawsnewid y sectorau adeiladu ac ynni. Mae ein canolfan yn ymwneud â phrosiect ABC i archwilio effaith Adeiladau Gweithredol ar bobl hŷn. Rydym am ddeall cymhellion pobl hŷn a’r prosesau gwneud penderfyniadau ynglŷn â symud i gartref ‘gweithredol’. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn cyfranogiad y cyhoedd ac ymgysylltu â'r broses ymchwil ac mae hyn yn ganolog i'n hymchwil. Byddwn yn gweithio gyda phobl hŷn i ddyfeisio a chynnal yr ymchwil. Rwy'n cadw rôl weithredol ym mhrosiect SUNRISE (Strategic University Network to Revolutionize International Solar Energy) ac roeddwn yn ymwneud â threialu dulliau celfyddydol i gymryd rhan ac ymgysylltu yn India (mae gan y blog hwn fanylion pellach) fel rhan o fy yn rôl o fewn Centre for Ageing and Dementia Research (CADR) Cymru. Yn ddiweddar, derbyniais PhD ar fy rôl mewn rhwydweithiau cymorth cymdeithasol mewn llythrennedd dementia o oedolion hŷn yng Nghymru.