Trosolwg
Mae Casey Hopkins yn Athro Cysylltiol (â ffocws ar addysgu) yn yr Adran Gyfrifiadureg. Ymunodd â'r Brifysgol yn 2013 fel myfyrwraig, gan ennill MEng mewn Cyfrifiadura yn 2017. Ar ôl graddio, cymerodd swydd fel datblygwr meddalwedd, cyn dychwelyd yn nes ymlaen fel aelod staff academaidd. Mae ganddi ddiddordebau mewn addysg ac ehangu cyfranogiad cyfrifiadura.
Ar hyn o bryd mae ei rolau'n cynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen y Radd-brentisiaeth Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol ac Arweinydd Canolfan Gwella Dysgu ac Addysgu'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Fel academydd sy'n canolbwyntio ar addysgu, mae hi bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella dysgu ac addysgu yn Abertawe a rhannu'r syniadau hyn er mwyn gwella profiad y myfyrwyr a'r staff fel ei gilydd.
Gan weithio'n agos gyda thîm allgymorth yr adran yn Technocamps, mae hi'n cynrychioli'r ochr fusnes (Y Sefydliad Codio yng Nghymru) ac yn gweithio gyda diwydiannau lleol, gan ddatblygu llwybrau newydd i addysg uwch a dysgu gydol oes. Fel rhan o'r rôl hon mae hi wedi arwain gwaith i ddatblygu a chyflwyno sawl micro-gymhwyster ar brosiectau a ariennir gan CCAUC/Medr a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ers 2020 yn ogystal â gwaith allgymorth gydag ysgolion.
Ar hyn o bryd mae'n ymgymryd â Doethuriaeth Addysgol ran-amser, gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng Cyfrifiadureg ac Ieithoedd Tramor Modern a chan archwilio potensial mabwysiadu dulliau addysgu gwahanol er mwyn ehangu cyfranogiad.