Trosolwg
Mae Dr Pimiento yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ymchwilio i ecoleg ac esblygiad megaffawna morol hynafol gan ddefnyddio’r cofnodion ffosiliau. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn nynameg amrywiaeth hirdymor siarcod, difodiant a chadwraeth. Mae gan Catalina Gymrodoriaeth PRIMA o’r Swiss National Science Foundation ac mae’n treulio rhan o’i hamser yn y Paleontology Institute and Museum ym Mhrifysgol Zurich.