Trosolwg
Cadeirydd TATA Steel
Cyfarwyddwr Hyb SUSTAIN Ymchwil Gweithgynhyrchu Dur y Dyfodol y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)
Cyd-Gyfarwyddwr Cyfleuster Uwchddelweddu Deunyddiau (AIM)
Ar hyn o bryd, Athro a noddir gan TATA Steel ydw i. Cyn hynny bûm yn gweithio fel swyddog ymchwil ôl-ddoethurol yng Nghanolfan Technoleg Deunyddiau Prifysgol Rolls-Royce gan arbenigo ym maes cymeriadu deunyddiau a meteleg fecanyddol. Mae gennyf hanes hir o greu rhyngwynebau â byd diwydiant gan feddu ar gryn brofiad o reoli cydweithrediadau a pherthnasoedd ymchwil rhwng byd diwydiant a’r byd academaidd.
Dirprwy Gyfarwyddwr Hyb SUSTAIN Ymchwil Gweithgynhyrchu Dur y Dyfodol ydw i. Ariennir y Ganolfan gan yr EPSRC a’i hamcan yw cyflawni gwyddoniaeth arloesol a’r ymchwil sydd ei hangen ym maes peirianneg i greu cadwyni cyflenwi ar gyfer dur y DU sy’n niwtral o ran carbon ac yn effeithlon eu hadnoddau. Sefydlais y cyfleuster Uwchddelweddu Deunyddiau a chwaraeais rôl arweiniol wrth sefydlu’r Sefydliad Dur a Metelau ym Mhrifysgol Abertawe y mae TATA Steel eisoes wedi ymrwymo 30 o ymchwilwyr diwydiannol a £9m o gyfarpar ymchwil iddo.
Mae fy ymchwil gyfredol yn rhychwantu ystod eang o bynciau sy’n cefnogi’r gwaith o arloesi yn y diwydiant dur gan gynnwys datblygu cynnyrch, arloesi o ran prosesau ac optimeiddio dulliau gwneud dur a meteleg echdynnol. Mae hyn yn cynnwys optimeiddio prosesu deunyddiau crai sy’n fferrus, cymeriadu deunyddiau gwrthsafol a datblygu aloion cyflym.