Professor David Ritchie

Yr Athro David Ritchie

Athro mewn Gwyddoniaeth Llêd-ddargludyddol a Thechnoleg
Physics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 1299

Cyfeiriad ebost

512
Pumed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae David Ritchie yn Athro Gwyddoniaeth a Thechnoleg Lled-ddargludyddion ym Mhrifysgol Abertawe lle mae'n ymwneud â'r Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integreiddiol (CISM). Mae hefyd yn Athro Ffiseg Arbrofol ac yn Gymrawd Coleg Robinson yng Nghaergrawnt. Derbyniodd ei radd gyntaf, mewn ffiseg, o Brifysgol Rhydychen yn 1980 a'i D Phil o Brifysgol Sussex ym 1986 yn astudio ffiseg cymysgeddau o hylif 3He a 4He ar dymheredd mili-kelvin. Ers hynny mae wedi bod yn gweithio ar ffiseg lled-ddargludyddion III-V ac mae ganddo brofiad helaeth o dyfu, creu a mesur strwythurau a dyfeisiau electronig ac optegol dimensiwn isel. Mae wedi bod yn gydawdur dros 1500 o bapurau a dyfarnwyd medal a gwobr Tabor 2008 iddo gan Sefydliad Ffiseg y DU am ymchwil nodedig mewn ffiseg arwyneb neu nanoraddfa.  Mae'n Gymrawd Sefydliad Ffiseg y DU ac fe'i etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2020.

Meysydd Arbenigedd

  • Epitacseg pelydr molecwlaidd (MBE)
  • Cludiant cwantwm mewn strwythurau dimensiwn isel
  • Laserau rhaeadr cwantwm Terahertz
  • Nanosgopeg Terahertz
  • Rhyngweithio pelydriad THz â dyfeisiau cwantwm
  • Dotiau cwantwm InAs hunangynulledig
  • Ffynonellau ffoton sengl a chyfrod