Trosolwg
Yn ystod ei yrfa academaidd, mae'r Athro Dave Worsley wedi creu portffolio gwerth miliynau o bunnoedd o brosiectau consortiwm cenedlaethol a rhyngwladol ym meysydd deunyddiau uwch, ynni solar ac ymchwil i ddatblygu technolegau a deunyddiau arloesol i fwydo i mewn i'r gadwyn gyflenwi fyd-eang. Hyd yma mae wedi arwain y gwaith o ddatblygu mwy na £120m o fuddsoddiad mewn hyfforddiant cydweithredol, ymchwil ac arloesi.
Mae gan Dave weledigaeth i newid y byd! Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd - gyda diwydiant adeiladu'r DU yn gyfrifol am 60% o'r holl ddeunyddiau a ddefnyddir ac adeiladau’n gyfrifol am hyd at 40% o'n hallyriadau carbon - mae Dave yn canolbwyntio ar ddad-garboneiddio'r gadwyn gyflenwi deunyddiau ac ar ynni adnewyddadwy ar gyfer adeiladau a thrafnidiaeth.