Trosolwg
Mae’r Athro Daniel G. Williams yn feirniad diwylliannol ac yn un o ddeallusion cyhoeddus blaenllaw Cymru. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn amrywio o'r 19eg ganrif hyd heddiw ac yn cwmpasu llenyddiaethau Cymraeg a Saesneg ar ddwy ochr yr Iwerydd. Mae'r diddordebau hyn yn cael eu cysylltu â’i ddiddordeb mewn cenedlaetholdeb, ethnigrwydd a hunaniaeth.
Mae'r Athro Williams yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Gymrawd Etholedig yr Academi Gymreig. Mae'n Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ac mae wedi gwasanaethu fel Llywydd NAASWCH (Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru). Ers 2016 mae wedi bod yn Gadeirydd Panel Dyfarnu Grantiau Cyngor Llyfrau Cymru (yn yr iaith Saesneg).
Ganed Daniel Williams yn Aberystwyth ym 1972 ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gyfun Penweddig. Fel myfyriwr israddedig, astudiodd Lenyddiaeth Americanaidd a Saesneg ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia (Norwich), gan dreulio ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Clark, Worcester, Massachusetts. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth
Frank Knox iddo ym 1995 i astudio ym Mhrifysgol Harvard, gan raddio gydag MA mewn Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd ym 1997. Astudiodd am ei PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg (2001) ym Mhrifysgol Caergrawnt lle ariannwyd ei amser yng Ngholeg y Brenin gan yr AHRB (Bwrdd Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau). Dechreuodd Daniel ddysgu ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Ionawr 2000. Roedd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol CREW (Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru) rhwng 2001 a 2007 ac fe olynodd yr Athro M. Wynn Thomas fel Cyfarwyddwr rhwng 2007 - 2010.
Y tu hwnt i'r byd academaidd, mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cerddoriaeth a gwleidyddiaeth. Mae’n sacsoffonydd jazz lled-broffesiynol ac yn sylfaenydd y chwechawd jazz-gwerin ‘Burum’ sydd wedi rhyddhau tair albwm - Alawon (2007), Caniadau (2012), a Llef (2016). Mae’n byw yng Nghwm Tawe yn etholaeth Castell-nedd ble y safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiadau San Steffan yn 2017 a 2019.