Trosolwg
Cefais fy mhenodi'n Ddarlithydd yn y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe ym 1979, ac ymddeolais fel Athro Groeg yn 2015. Mae fy ymchwil gyhoeddedig yn canolbwyntio ar naratif a ffuglen mewn Groeg a Lladin. Yn ystod fy ngyrfa yn Abertawe, bûm yn addysgu cyrsiau a modiwlau yn y rhan fwyaf o feysydd iaith a llenyddiaeth Groeg a Lladin, a dyfarnwyd wobr am Ragoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu ddwywaith i mi. Rwyf yn Gymrawd Etholedig Cymdeithas Ddysgedig Cymru.