Hannah Thompson-Radford
Hannah Thompson-Radford

Dr Hannah Thompson-Radford

Uwch Ddarlithydd – Cyfathrebu Chwaraeon
Media
103A
Llawr Cyntaf
Technium Digidol
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Hannah Thompson-Radford yn Uwch-ddarlithydd Cyfathrebu a Newyddiaduraeth ym myd Chwaraeon. Mae hi'n ysgolhaig ac yn ohebydd llawrydd ac mae'n creu cynnwys ac yn gweithio fel sylwebydd ym maes chwaraeon menywod, gan ganolbwyntio’n bennaf ar griced. 

Mae ganddi radd BA Saesneg a Gwyddor Chwaraeon, gradd MA yn y Cyfryngau Byd-eang ac MSc mewn Dulliau Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol. Mae ei diddordebau ymchwil yn croestorri â chymdeithaseg chwaraeon a'r cyfryngau a chyfathrebu gyda phwyslais cyffredinol ar rywedd. 

Mae PhD Hannah a ariennir gan yr ESRC yn damcaniaethu gwelededd/anwelededd chwaraeon menywod ac yn fwy penodol, mae'n archwilio barn chwaraewyr criced benywaidd elît am eu gwelededd/anwelededdd yn y cyfryngau yn ogystal â'u hagweddau at y cyfryngau cymdeithasol. Mae lleisiau athletwyr benywaidd elît o'r gorffennol a'r presennol yn ganolog i’w gwaith sy'n golygu bod ei hymchwil yn ymwneud â menywod ym myd chwaraeon, a’i bod yn cael ei datblygu ar y cyd â nhw ac er eu lles nhw. Yn ogystal mae Hannah wedi cyhoeddi ar faes beichiogrwydd a bod yn fam ym myd chwaraeon, er enghraifft, ar ddefnydd Serena Williams o'r cyfryngau cymdeithasol.

Ar wahân i'w gwaith ymchwil, mae Hannah yn gweithio ar ei liwt ei hun yn y cyfryngau cymdeithasol ac mae wedi gweithio ar ddigwyddiadau mawr megis Gemau Olympaidd y Gaeaf, Cwpan Criced y Byd, Cwpan Billie Jean King, Cwpan Davis a digwyddiadau Formula E. Yn ogystal, mae hi wedi ymdrin â WSL a Phencampwriaeth yr FA ac mae wedi gweithio fel swyddog y cyfryngau ar gyfer Clwb Pêl-droed Menywod Dinas Caerlŷr ac fel rheolwr y cyfryngau ar gyfer criced Loughborough Lightning yng uwch-gynghrair flaenorol Kia yn ogystal â rheoli a chynorthwyo gyda masnachfreintiau pêl-rwyd a rygbi Lightning.   

Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ei liwt ei hun ar gyfer Chwaraeon y BBC ar griced ac mae ei gwaith yn ymddangos yn aml ar blatfformau megis The Cricketer, The Independent, rhaglen gemau The Official England Cricket match programme ac Yahoo Sports. Mae Hannah hefyd yn sylwebu ar gystadlaethau criced menywod rhanbarthol yr ECB ar gyfer ffrydiau byw The Blaze a Western Storm.  Mae hi hefyd wedi creu cynnwys ar gyfer The Hundred gan weithio gyda'r Trent Rockets.

Meysydd Arbenigedd

  • Rhywedd, y chwaraeon a’r cyfryngau
  • Cyfathrebu ym myd Chwaraeon
  • Dulliau Ymchwil Ansoddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae addysgu Hannah yn gymysgedd o waith damcaniaethol ac ymarferol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar sut mae rhanddeiliaid chwaraeon yn defnyddio’r cyfryngau digidol a chysylltiadau yn y cyfryngau digidol.

Ymchwil