Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
llun proffil o Dr Lisa Smithstead

Dr Lisa Smithstead

Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Ffilm
Media

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
105B
Llawr Cyntaf
Technium Digidol
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Lisa'n Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm yn Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu. Bu'n darlithio ym Mhrifysgol Caerwysg a Phrifysgol East Anglia cyn hyn. Ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2022 lle mae'n addysgu astudiaethau ffilm ac mae wedi arwain ar recriwtio ar gyfer y BA mewn Ffilm a Diwylliant Gweledol newydd, wedi bod yn Arweinydd EDI ar gyfer yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu ac mae'n Ddirprwy Arweinydd Effaith ar gyfer Uned Asesu 25 ar gyfer REF2029.

Arbenigedd Lisa yw hanes ffilmiau ffeministaidd, theori ffilmiau ffeministaidd, astudiaethau addasu, ffilmiau archifol a theori ac ymarfer llenyddol. Mae'n awdur Off to the Pictures: Cinemagoing, Women’s Writing and Movie Culture in Interwar Britain (Edinburgh University Press 2016) a Reframing Vivien Leigh, (Oxford University Press in 2021). Mae ei gwaith wedi ymchwilio i bynciau megis diwylliannau dilynwyr ffilmiau, cynrychiolaeth cwiar mewn addasiadau o ffilmiau, plant yn mynd i'r sinema rhwng y rhyfeloedd, dulliau digidol mewn hanes ffilmiau ffeministaidd a sêr benywaidd a heneiddio.

Mae Lisa wedi derbyn nifer o grantiau i gefnogi ei gwaith ymchwil ryngddisgyblaethol. Roedd hi'n Brif Ymchwilydd ar gyfer prosiect Cymrodoriaeth Gyrfa Gynnar a ariennir gan yr AHRC ‘Reframing Vivien Leigh: stardom, archives, and access’ (2018-2020) gwerth £183,975. Yn fwy diweddar, bu'n Brif Ymchwilydd ar brosiect Heriau a ariennir gan UKRI ‘Ageing on Screen After #MeToo: age, gender and celebrity’ (2023) ac yn Brif Ymchwilydd ar brosiect Crwsibl Cymru a ariennir ar y cyd ‘Screening Dementia: Framing Realities, Fostering Understanding’ (2023-24) gyda thîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr ar draws y Dyniaethau ac astudiaethau gofal iechyd. Mae hi’n Ymchwilydd ar y Cyd ar brosiect newydd dros 4 blynedd a ariennir gan AHRC ‘Women’s Screen Work in the Archives Made Visible’ gwerth £1.49m. 

Mae Lisa'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr doethurol y mae eu diddordebau ymchwil yn cyd-fynd â meysydd ffeministiaeth a ffilm/teledu, rhywedd a sinema/teledu, hanes ffilmiau Prydeinig ac Americanaidd, archifau ffilm a llenyddiaeth, heneiddio a'r sinema ac ymaddasu.

Meysydd Arbenigedd

  • • Sinema a theledu i fenywod
  • • Hanesyddiaeth Ffilmiau
  • • Archifau ffilm a llenyddol
  • • Heneiddio a rhagfarn oed mewn ffilm
  • • #MeToo a diwylliannau ffilm
  • • Ymaddasu
  • • Moderniaeth, modernedd a'r ffilmiau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae gwaith addysgu Lisa'n canolbwyntio ar gyflwyno myfyrwyr i ddadansoddi, hanes a theori ffilm. Mae ei gwaith addysgu arbenigol yn canolbwyntio ar ymaddasu ar draws y cyfryngau ar y sgrîn a llenyddiaeth a hanes a dyfodol menywod mewn ffilmiau.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau