Trosolwg
Arbenigedd Miriam yw ffuglen wyddonol y Gymraeg, gyda diddordeb penodol mewn archwilio'r berthynas rhwng cymunedau o siaradwyr lleiafrifol a thechnoleg. Mae Miriam wrthi'n llunio ei chyfrol academaidd gyntaf ar hyn o bryd, Hiraeth Amhosibl: Ffuglen Wyddonol y Gymraeg, gyda Gwasg Prifysgol Cymru.
Yn ogystal, trafoda waith ymchwil Miriam lenyddiaeth gyfoes yn gyffredinol, gyda diddordeb ehangach yn rhychwantu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn fwy cyffredinol, gan edrych yn benodol ar sut i annog pobl ifanc a dysgwyr yr iaith i ddarllen a mwynhau llenyddiaeth a mynegi'u hunain yn greadigol.
Mae Miriam hefyd yn llenor. Roedd hi’n un o’r criw aeth ati i sefydlu cylchgrawn Y Stamp yn 2016. Cyrhaeddodd restr fer Nofel Gyntaf Crime Cymru 2022 ac mae hi'n parhau i ysgrifennu a chyhoeddi ei gwaith creadigol ochr yn ochr â'i gwaith academaidd.
Yn 2025, roedd Miriam yn un o feirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru 2025.
Cyn ymuno ag Adran y Gymraeg Abertawe yn 2021, bu Miriam yn gweithio fel newyddiadurwr ac ymchwilydd gyda BBC Cymru Fyw a bu’n Uwch Gyfieithydd yn nhîm cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf.