Trosolwg
Dr Andreoli yw'r arbenigwr ar Ddal a Defnyddio Carbon (CCU) a’r arweinydd grŵp yn Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni Prifysgol Abertawe. Mae ei weithgareddau ymchwil, addysgu ac ymgysylltu yn gysylltiedig â chynaliadwyedd ynni ac adnoddau. Mae ganddo ddiddordeb mewn technolegau ar gyfer CCU, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu deunyddiau dal a defnyddio carbon deuocsid uwch fel y gellir defnyddio CCU ar raddfa fawr, yn enwedig ar gyfer datgarboneiddio diwydiannol. Gan ddilyn dull ar draws graddfeydd, mae Dr Andreoli gyda'i gydweithwyr yn cynnig dull unigryw o ddatblygu atebion ymarferol i ddatgarboneiddio.